Gwerth Chwaraeon
Rydym yn credu bod gan chwaraeon rôl enfawr i'w chwarae mewn
cyfrannu at les cyffredinol y genedl. Ein bwriad ni yw sicrhau bod
eu gwerth (ar ac oddi ar y cae) yn cael ei ddeall ar draws gwahanol
sectorau ac ardaloedd, er mwyn sicrhau effaith fwy fyth ymhlith y
rhai mewn angen mwyaf.
I'r diben hwn, aeth Chwaraeon Cymru ati i gomisiynu Canolfan
Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon (SIRC) ym Mhrifysgol Sheffield Hallam
i gynnal ymchwil i effaith ariannol chwaraeon yn erbyn llesiant
cyffredinol y boblogaeth.
Mae'r ymchwil yma'n edrych ar werth chwaraeon i'r genedl a'r
cyfraniad y gallant ei wneud yn erbyn nifer o agendâu allweddol,
fel iechyd, troseddu, addysg a lles.
Yn ystod y misoedd sydd i ddod, bydd canfyddiadau'n cael eu
rhyddhau sy'n dangos yr elw cymdeithasol ar fuddsoddiad y gall
chwaraeon ei greu yn erbyn y gwahanol feysydd hyn a'r effaith
economaidd gyffredinol maent yn ei chreu i'r economi.
Byddwn eisiau defnyddio'r wybodaeth i'n helpu ni i ddatblygu'r
gwaith rydym yn ei wneud gyda phartneriaid o sectorau eraill, i
barhau i gynyddu effaith bositif chwaraeon a gweithgarwch corfforol
ar fywydau pobl yng Nghymru.
Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad Chwaraeon yn erbyn
Iechyd

Yr uchafbwyntiau
Heb i bobl gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd,
mae'r adroddiad yn dangos y byddai cost ychwanegol o £295 miliwn y
flwyddyn i gyllidebau iechyd.
Amcangyfrifir hefyd bod cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
rheolaidd yn lleihau'r risg o salwch mawr hyd at 30%.
Mae'r canfyddiadau'n cysylltu'r arbedion yn y maes yma â llai o
driniaeth i salwch mawr, treulio llai o amser yn gyffredinol mewn
apwyntiadau gyda meddyg teulu a llai o bwysau ar staff a
gwasanaethau rheng flaen y GIG.

Manylion pellach
- Darllenwch y datganiad i'r wasg llawn
yma
- Y canfyddiadau llawn a'r fethodoleg ar gael yma
- Esiamplau o weithgarwch corfforol yn cael effaith mewn
lleoliadau iechyd yma
- Cyfle i glywed ein Pennaeth Dirnadaeth, Owen Hathway, yn trafod
y canfyddiadau gydag Uwch Ymarferydd gyda Bwrdd Iechyd Aneurin
Bevan, Kathryn Cross, a'r Rheolwr Cyfeirio at Ymarfer Cenedlaethol,
Jeannie Wyatt-Williams, ar ein podlediad
yma