Diogelu Data

Deddf Diogelu Data 1998

Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn sefydlu fframwaith o hawliau a dyletswyddau er mwyn diogelu data personol. Mae'r Ddeddf Diogelu Data'n rhoi hawl i unigolion wybod pa wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanynt. Mae'n darparu fframwaith i sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn briodol.

Mae'r Ddeddf yn gweithio mewn dwy ffordd. I ddechrau, mae'n datgan bod raid i unrhyw un sy'n prosesu gwybodaeth bersonol weithio gan gadw at wyth egwyddor, sy'n sicrhau'r canlynol mewn perthynas â gwybodaeth bersonol:

  • Caiffl ei phrosesu'n deg a chyfreithlon
  • Caiff ei phrosesu at ddibenion cyfyngedig
  • Bydd yn ddigonol, yn berthnasol a heb fod yn ormodol
  • Bydd yn fanwl a diweddar
  • Caiff ei chadw am y cyfnod angenrheidiol yn unig
  • Caiff ei phrosesu yn unol â'ch hawliau chi
  • Ei bod yn ddiogel
  • Ni chaiff ei throsglwyddo i wledydd eraill heb warchodaeth ddigonol

Mae'r ail adran yn y Ddeddf yn darparu hawliau pwysig i unigolion, yn cynnwys yr hawl i ganfod pa wybodaeth bersonol sy'n cael ei chadw at gyfrifiadur ac yn y rhan fwyaf o gofnodion papur (gelwir hyn yn Gwneud Cais am Fynediad at Bwnc).

Defnydd Chwaraeon Cymru o Ddata a'i ddull o'i Storio

Rydym yn casglu data personol mewn ffyrdd amrywiol, yn cynnwys:

  • ffurflenni cais am waith gyda Chwaraeon Cymru;
  • ceisiadau am gyllid;
  • yr wybodaeth y gwneir cais amdani ar gyfer rhestri postio a basau data;
  • arolygon ac astudiaethau ymchwil.

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod y data personol yn cael ei broesu'n unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data a bod pob gwybodaeth lle gellir adnabod unigolyn ynddi'n bersonol a ddarperir i Chwaraeon Cymru'n cael ei phrosesu'n unol ag egwyddorion Deddf Gwarchod Data 1998.

Rydym wedi cofrestru manylion am ein dull o brosesu data personol gyda'r Dcomisiynydd gwybodaeth; ein Rhif Cofrestru i Ddiogelu Data yw Z5769715.

Gwneud cais am fynediad at bwnc

Gallwch ofyn am gopi o'r holl wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanoch ac y mae'r Ddeddf yn berthnasol iddi. Os hoffech weld yr wybodaeth bersonol y gall Chwaraeon Cymru fod yn ei chadw amdanoch, ysgrifennwch at:

Yr Uwch-Swyddog Gwybodaeth, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW

Dylai'r cais gynnwys cyfeiriad cyswllt ynghyd â manylion llawn eich ymholiad, a darparu tystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi (e.e. copi o'ch trwydded yrru, pasbort neu dystysgrif geni).

Gall Chwaraeon Cymru godi ffi am ddelio â'ch cais. Ni chodir ffi mwy na £10. Bydd Chwaraeon Cymru'n ymateb mor gyflym ag y bo modd i gais am fynediad at bwnc, ac o fewn 40 diwrnod calendr o dderbyn y cais yn ddi-ffael.