Cynllunio
Mae Chwaraeon Cymru'n ymgynghorai statudol ar gyfer
ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar gaeau chwarae
Ein nod yw gwarchod caeau chwarae a gallwn gefnogi awdurdodau
lleol, preswylwyr a datblygwyr pan fo datblygiadau arfaethedig yn
debygol o gael effaith ar gaeau
chwarae.
Rydym yn gweithio'n agos â 'Fields in Trust' er mwyn ymateb i
ymgynghoriadau.
Ceir cyfarwyddyd cynllunio ar gyfer Cymru yng nghyhoeddiad
Llywodraeth Cymru, 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mewn perthynas â
chaeau chwarae, mae'r cyfarwyddyd yn
datgan:
Dylid gwarchod pob cae chwarae, boed yn eiddo i sefydliadau
cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, ac eithrio pan gyfyd yr
amgylchiadau a gamlyn:
- bydd yn haws cadw cyfleusterau, a byddant yn gwella, o
ailddatblygu rhan fechan o'r safle hwn;
- bydd darpariaeth amgen, yn cynnig yr un budd i'r gymuned, ar
gael;
neu
- mae gormod o ddarpariaeth o'r fath yn yr ardal.
Gwelir y polisïau a'r cyfarwyddyd perthnasol i gaeau chwarae a
chyfleusterau chwaraeon yn y dolenni ar y dde ar y dudalen hon.