Ddiweddariadau ymchwil
21 Awst 2014
Ar yr 28ain Awst, fe fyddwn ni'n rhyddhau rhagor o ystadegau o
Arolwg 2012 ar Oedolion Egnïol… http://bit.ly/17j72ln #chwaraeon
#galwcudd #iechyd #rhwystrau
20 Awst 2014
Fedrwch chi ein helpu ni i werthuso'r Rhaglen Llythrennedd
Corfforol ar gyfer Ysgolion? Rydyn ni'n chwilio am ymchwilwyr
profiadol, sydd â gwybodaeth am systemau addysg os yn bosib, i fod
yn rhan o ddarn mawr, cyffrous a dylanwadol o waith. I gael rhagor
o wybodaeth, ewch i: http://bit.ly/1qppCjR
15 Awst 2014
Gyda Thîm Cymru newydd dorri record a dod â 36 o fedalau adref o
Glasgow, mae'r Tîm Ymchwil ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad ar ran
Cyngor Gemau'r Gymanwlad Cymru. Y nod yw dysgu oddi wrth brofiad
Glasgow fel ein bod yn gallu gwella potensial Cymru i berfformio'n
dda ar y Traeth Aur yn 2018. #dysgu #perfformiad
#cenedlobencampwyr
12 Awst 2014
Rydyn ni wedi cyhoeddi data am gerdded a beicio yng Nghymru ...
dyma nhw! http://bit.ly/17j72ln
6 Awst 2014
Cadwch lygad am newyddion ar y 12fed o Awst 2014… fe fyddwn ni'n
rhyddhau'r data am gerdded a beicio yng Nghymru.
1 Awst 2014
Rydyn ni wedi cyffroi'n lân bod ein Harolwg ar Chwaraeon Ysgol
ar restr fer yr Ymgyrch Orau yn y Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau
Pride Cymru y Sefydliad Siartredig ar gyfer Cysylltiadau Cyhoeddus!
#hwre!
28 Gorffennaf 2014
Roeddem wrth ein bodd yn cael cyfle i weithio gyda Gwasanaeth
Gwybodaeth Cymru y GIG. #rhannu #cydweithio
24 Gorffennaf 2014
Mae Rachel yn mynd i Gaerwrangon heddiw i gyfarfod cydweithwyr o
Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Birmingham ynghylch
cam nesaf ein prosiect ymchwil GrymusoAG. #cymhelliant
#llythrenneddcorfforol
22 Gorffennaf 2014
Roedd yn grêt gweld Tim a John yn dangos eu cefnogaeth i dîm
Tennis Bwrdd Tîm Cymru! #rhoicynnigarni

18 Gorffennaf 2014
Roedd yn grêt gallu rhannu ein hymchwil gyda chydweithwyr o
Sport Waikato a Sport Northland heddiw. #arwainyffordd
#rhyngwladol
15 Gorffennaf 2014
Yn Chwaraeon Cymru mae pob adran wedi cael camp i'w hyrwyddo yng
Ngemau'r Gymanwlad. Mae'r Tîm Ymchwil yn falch o fod yn hyrwyddo'r
tîm Tennis Bwrdd!
10 Gorffennaf 2014
Ydych chi wedi gweld ein ffeithlenni sy'n cefnogi Galw am
Weithredu? Rhagor o wybodaeth am y materion cysylltiedig â rhyw,
anabledd, DLlE, tlodi a chyfranogiad mewn chwaraeon ar ein tudalen
cyhoeddiadau yma: http://bit.ly/1lUoYcT
#cydraddoldeb
9 Gorffennaf 2014
Roedd yn grêt cyfarfod cydweithwyr o Ymchwil Addysg WISERD i
drafod y potensial o rannu a chydweithio. #cyfnod cyffrous
1 Gorffennaf 2014
Aeth Becca i gyfarfod diweddaraf y Fforwm Mynediad Cenedlaethol
yng Nghanolbarth Cymru yr wythnos hon. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru
yn cynnal cyfres o weithdai ymgynghorol ar ei Strategaeth Hamdden a
Mynediad ddrafft ac, fel aelod o'r Fforwm, cawsom wahoddiad i
gymryd rhan. Roedd yn gyfle diddorol i wneud cysylltiadau ac i
glywed gan bartneriaid eraill sy'n gweithio ym maes hamdden awyr
agored. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dadansoddi'r adborth o'u
gweithdai ym mis Awst.
20 Mehefin 2014
Bu Rachel, ochr yn ochr â Dan Milton o Brifysgol Fetropolitan
Caerdydd, yn cymryd rhan yn rownd derfynol y gwaith maes yn Ysgol
Gyfun Bryntirion y bore yma fel rhan o'n prosiect ymchwil
GrymusoAG. Roedd disgyblion blwyddyn 9 yno yn wych! Diolch yn fawr
i'r staff a'r disgyblion i gyd a gymerodd ran yn y prosiect!
16 Mehefin 2014
Dangoswyd enghreifftiau gwych o dystiolaeth fel sail i arferion
yng nghynhadledd 'Llythrennedd Corfforol: newid y gêm' Consortiwm
Canolbarth y De yr wythnos ddiwethaf. Roedd yn grêt gweld athrawon
a disgyblion yn defnyddio eu data o'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol i
roi mwy o lais i ddisgyblion, i wella llythrennedd corfforol ac i
effeithio ar ganlyniadau ysgol gyfan. Cafwyd straeon ysbrydoledig
hefyd am sut gall AG a chwaraeon ysgol gael effaith mor gadarnhaol
ar ddisgyblion. Roeddem wrth ein bodd!
11 Mehefin 2014
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynhadledd Consortiwn Canol De
Cymru, 'Llythrennedd Corfforol: newid y gêm' ddydd Gwener.
9 Mehefin 2014
Rydym yn edrych ymlaen at fynychu digwyddiad 'Gofal
Iechyd Gofalus - oes posib iddo achub y GIG yng Nghymru' gan y
Sefydliad Materion Cymreig yr wythnos hon.
6 Mehefin 2014
Fe wnaethom fynychu seminar ddiddorol ddoe gan Steve
Manske o Brifysgol Waterloo yng Nghanada, a oedd yn rhannu gwersi
am greu cymunedau ysgol iach yng Nghanada. Diddorol oedd gweld
elfennau tebyg i'n harolwg ni ar Chwaraeon Ysgol ... o ran adrodd
yn ôl i ysgolion, pobl ifanc sy'n hyrwyddo'r arolwg a'i ddefnydd,
ac ymgysylltu â'r sectorau addysg a chwaraeon a'u hannog i ddarparu
dull gweithredu seiliedig ar dystiolaeth ac yn rhoi sylw i
weithredu. Diolch i DECIPHer am gynnal y
seminar.
2 Mehefin 2014
Mynychodd Rachel y Grŵp Llythrennedd Corfforol yr
wythnos yma ac roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn clywed am yr
ymchwil i lythrennedd corfforol sy'n digwydd yn y sector AU yng
Nghymru.
30 Mai 2014
Gwaith cynllunio Tîm Ymchwil Chwaraeon Cymru yn
lliwgar iawn! Diwrnod hynod ddefnyddiol a
chynhyrchiol…
20 Mai 2014
Ydych chi wedi gweld ein graffeg gwybodaeth o arolwg
2012 ar Oedolion Egnïol? Os nad ydych chi, ewch i'w weld yma.
12 Mai 2014
Mae Rachel a Becca yn mynd i gyfleuster Parc y
Ddraig Cymdeithas Bêl Droed Cymru brynhawn heddiw i gyflwyno
gweithdy i Aelodau Bwrdd Chwaraeon Cymru ar ddefnyddio data arolwg
2012 ar Oedolion Egnïol.
6 Mai 2014
Faint mae Cymru'n ymwneud â chwaraeon? Edrychwch ar ddata Arolwg
2012 ar Oedolion Egnïol sydd wedi'u cyhoeddi gennym heddiw!
#tystiolaeth
2 Mai 2014
Rydyn ni'n gyffrous iawn am ryddhau data Arolwg 2012 ar Oedolion
Egnïol ddydd Mawrth 6ed Mai am 9.30am. #tystiolaeth
23 Ebrill 2014
Mae cydraddoldeb yn uchel ar ein agenda ni o hyd gyda rhagor o
ddadansoddi ar yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgola'r Arolwg ar Oedolion
Egnïol ar droed. Beth fydd y canlyniadau'n ei ddweud wrthym am ryw,
anabledd, DLlE, tlodi a chyfranogiad mewn chwaraeon? Bydd
ffeithlenni ar gael yn ein sioeau teithiol Galw Am Weithredu ni ac
ar y wefan yn fuan #cydraddoldeb
14 Ebrill 2014
Cyfarfod cadarnhaol gyda Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru heddiw
yn edrych ar ffyrdd o gydweithio a rhannu data… ac yn y pen draw,
sicrhau canlyniadau iechyd i bobl
Cymru.
1 Ebrill 2014
Rydyn ni'n falch iawn bod Jon Radcliffe yn gweithio'n llawn
amser i ni o heddiw ymlaen fel Uwch Ddadansoddwr Data a Systemau
Gwybodaeth Daearyddol. Croeso!
24 Mawrth 2014
Cynhaliwyd cyfarfod o Fwrdd Ymgynghorol Grymuso AG heddiw ac
rydyn ni'n gyffrous iawn o weld rhai o'r canfyddiadau cychwynnol.
Byddwn yn eu rhannu'n fuan! #cymhelliant #gwirioni
19 Mawrth 2014
Rydyn ni'n falch o ddeall y bydd data ein Harolwg ar Chwaraeon
Ysgolyn cael eu cynnwys ar Wefan Fy Ysgol Leol Llywodraeth Cymru.
#LlythrenneddCorfforol
6 Mawrth 2014
Mae Rachel yn mynd i Barc Cathays heddiw i gyflwyno manylion am
yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol i Bwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru.
#tystiolaeth #sbardunogweithredu
19 Chwefror 2014
Os nad ydych chi wedi ei weld eto, edrychwch ar flog Rachel am
yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgola beth sydd wedi bod yn digwydd ers i
ni ryddhau'r data. Cynnwys cyffrous! http://t.co/gLwJqgYgGF
4 Chwefror 2014
Cafwyd cyfarfod cynhyrchiol iawn gyda'r Athro Simon Murphy o'r
Ganolfan ar gyfer Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ar gyfer
Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) y bore yma, yn edrych ar
gyfleoedd ar gyfer cydweithio.
28 Ionawr 2014
Rydym yn cydweithio gyda Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg
Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol De Cymru er
mwyn ychwanegu gwerth at ein bas data o gyfleusterau chwaraeon
adeiledig a naturiol. Bydd Academyddion a Myfyrwyr Gradd Meistr yn
defnyddio technoleg GIS i edrych ar y data ar y cyd â data
cymdeithasol, demograffig a daearyddol, i edrych ar amrywiaeth o
faterion. Y mater cyntaf fydd modelu mynediad i'r cyhoedd i
gyfleusterau.
22 Ionawr 2014
Newyddion cyffrous iawn ... rydyn ni wedi ennill gwobr! Enillodd
y Tîm Ymchwil wobr Tîm y Flwyddyn 2014yng Ngwobrau'r Staff ac
enillodd Becca y wobr am Gyfraniad Eithriadol i Chwaraeon Cymru!
#balch
14 Ionawr 2014
Roeddem yn falch iawn o groesawu Tim Evans at y Tîm Ymchwil
heddiw. Bydd yn gweithio fel Swyddog Ymchwil. Croeso!
10 Rhagfyr 2013
Bydd Becca yn gwneud cyflwyniad heddiw yn seminar ymchwil Iechyd
Cyhoeddus Cymru ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon.
#cydraddoldeb
4 Rhagfyr 2013
Cyfarfod Grymuso AG gwych heddiw. Rydyn ni'n gyffrous iawn am
botensial y prosiect i helpu i greu amodau effeithiol a llawn
cymhelliant i ddisgyblion. #LlythrenneddCorfforol
2 Rhagfyr 2013
Llawer o drafod, dysgu a rhannu gwych heddiw gyda'n cydweithwyr
Ymchwil o SportNI a Chyngor Chwaraeon Iwerddon.
2 Rhagfyr 2013
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein cydweithwyr ymchwil o
SportNI a Chyngor Chwaraeon Iwerddon heddiw i ddysgu am yr Arolwg
ar Chwaraeon Ysgol. #rhannu
29 Tachwedd 2013
Cyflwynodd Rachel yr holl wybodaeth am yr Arolwg ar Chwaraeon
Ysgoli swyddogion polisi, ymchwilwyr ac ystadegwyr Llywodraeth
Cymru y bore yma. #dosbarthu