Y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol /

Caerdydd

Mae’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC) ar gampws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn gartref i Athletau Cymru.

Dyma'r trac athletau dan do cyntaf i gael ei adeiladu i bwrpas yn y DU. Mae'r cyfleuster yn cynnwys y canlynol:

  • trac cystadlu 200m llawn ar oleddf
  • llain syth 60m gyda 9 lôn
  • llain syth 140m ar wahân gyda 6 lôn                          
  • safleoedd cystadlu ac ymarfer ar gyfer Naid Hir a Naid Drebl
  • safle cystadlu ac ymarfer ar gyfer Neidio â Pholyn
  • safle cystadlu ac ymarfer ar gyfer Naid Uchel                              
  • rhwydi ymarfer ar gyfer pob cystadleuaeth daflu
  • labordy biomecaneg gyda'r holl offer angenrheidiol
  • safle triniaeth Meddygaeth/Ffisiotherapi Chwaraeon                                                
  • safle codi pwysau ar gyfer athletau yn unig                    
  • campfa cryfder a chyflyru         

 Mae rhagor o wybodaeth am NIAC ar gael ar ei gwefan.