Ymdrechion Sir Gâr i ddenu menywod yn ôl i hoci
Mae menywod a merched yn Sir Gâr yn cael eu hannog i neidio o'r
soffa i'r maes hoci i roi cynnig ar ymarfer corff sy'n hwyl.
Mewn ymdrech i gael rhagor o fenywod i wneud mwy o ymarfer
corff, mae gan Gyngor Sir Gâr nifer o gyfleoeddBack2Hockeynewydd
mewn lleoliadau ledled y sir.
Bwriedir y sesiynau ar gyfer dechreuwyr neu'r rhai sy'n dymuno
ailafael yn y gamp ar ôl rhoi'r gorau iddi am sbel, ac maent yn
addo ymarfer corff cymdeithasol ac anffurfiol - a digonedd o
chwerthin.
Mae'r rhaglenniBack2Hockeyar gyfer pobl 18 oed a hŷn ac yn
cychwyn mewn nifer o leoliadau ym mis Gorffennaf.
- Canolfan Hamdden Dyffryn AmanNeuadd Chwaraeon Dan Do - dydd
Gwener 6pm i 7pm (12/19/26 Gorffennaf 2/9/16 Awst)
- Llanelliysgubor dan do Parc y Scarlets- dydd Mercher
6.30pm i 7.30pm (17/24/31 Gorffennaf 7/14/21 Awst)
- Clwb Chwaraeon Glanyfferi, Glanyfferi- dydd Mercher 6.30pm i
7.30pm (17/24/31 Gorffennaf 7/14/21 Awst)
- Canolfan Hamdden Sanclêr- dydd Iau 7pm i 8pm
(11/18/25 Gorffennaf 1/8/15
Awst).
Mae'r sesiynau'n costio rhwng £2 a £3 y sesiwn, ynghyd â ffi
ymuno fechan.
Mae adrannau chwaraeon a hamdden Cyngor Sir Gâr yn cyfuno â
Chwaraeon Cymru yn rhan o'i ymgyrchSut Mae'ch Symud Chi?i gael mwy
o fenywod a merched i wneud ymarfer corff.
CynhelirSut Mae'ch Symud Chi?trwy gydol yr haf a bydd yn hybu
gweithgareddau difyr a chymdeithasol i gael mwy o fenywod yn
heini.
"Mae'r sesiynau Back2Hockey wedi bod yn boblogaidd
erioed yn y gorffennol gan eu bod yn canolbwyntio ar yr elfen hwyl
yn hytrach na thaflu pobl i mewn i gystadleuaeth,"meddai
Rae Ellis, swyddog datblygu hoci.
"Rydym yn croesawu dechreuwyr a hoffem
yn arbennig i grwpiau o ffrindiau neu deulu ddod gyda'i gilydd gan
ein bod eisiau'r elfen gymdeithasol gref yna hefyd.
"Ac os bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn
dymuno mynd yn eu blaenau i chwarae i glybiau, gallwn helpu i'w
cyfeirio at y mannau cywir."
Os hoffech ragor o wybodaeth am y sesiynau
Back2Hockey, cysylltwch â Rae Ellis arRellis@carmarthenshire.gov.uk
neu 01554 744351.
I ddarganfod mwy am ymgyrch Sut Mae'ch Symud Chi? ewch i
Twitter: #whatmovesyou neu ewch i www.sportwales.org.uk.