Sefyll yn y bwlch – Strategaeth chwaraeon cymunedol ar gyfer Cymru

News-Latest-CommunityStrategy

Wrth i'r camerâu glicio ar yr wynebau hapus yng nghlwb gymnasteg Caerdydd i ddathlu 100 diwrnod i fynd tan Gemau Llundain 2012, roedd y garreg filltir yn ddiwrnod pwysig iawn hefyd y tu ôl i'r llenni yn y byd chwaraeon yng Nghymru.

Tra bo ymrwymiad i fuddsoddi £9 miliwn ychwanegol o arian y Loteri Genedlaethol mewn chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad wedi cipio'r penawdau, y gobaith ydi y bydd llawer o'r ymrwymiadau a'r targedau eraill a gyhoeddwyd ar y diwrnod hwnnw'n rhagori ar yr hwb ariannol o ran dylanwad ac effaith.

Gyda thua £32 miliwn y flwyddyn yn cael ei ymrwymo i chwaraeon cymunedol yng Nghymru yn awr, gallai lansiad y Strategaeth Chwaraeon Cymunedol ar gyfer Cymru fynd ar goll yng nghanol yr holl siarad am arian.                   

Ond mae'r arwyddion cynnar yn gadarnhaol. Mae'r gefnogaeth i'r amcanion tymor hir a'r weledigaeth ar gyfer chwaraeon wedi bod yn eang.

Yr her yn awr yw ymgorffori pob un o'r pum delfryd yn y gwaith yn y byd chwaraeon a thu hwnt os yw'r geiriau am droi'n weithredoedd.     

        

Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar bum prif thema: clybiau ffyniannus; penderfyniadau lleol; addysg safonol; gweithlu ymroddedig; a chyfleusterau priodol.

"Mae'r strategaeth yn cynnwys llawer o fanylion ond mae hynny'n angenrheidiol os ydyn ni am wneud gwahaniaeth," dywedodd Sian Thomas, Cyfarwyddwr Corfforedig Chwaraeon Cymru.

"Dydi bod yn gysyniadol gyda'r hyn rydyn ni eisiau ei wneud yn dda i ddim oherwydd 'fydd hynny ar ei ben ei hun ddim yn gwneud gwahaniaeth. Mae wedi cymryd llawer o waith i gyrraedd ble rydyn ni ond rydyn ni wedi cael cefnogaeth ac mae ffocws clir i'r gwaith 'fyddwn ni'n ei wneud yn y gymuned, beth rydyn ni eisiau ei weld a'r bobl y byddwn ni'n gweithio â nhw.

"Rydyn ni'n gwybod bod pocedi o waith da'n digwydd ar hyd a lled Cymru, ond mae'n rhaid i waith da ddod yn norm ym mhob man.          

"Mae'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn darparu cyfle unigryw mewn oes i gynnwys mwy o bobl yng Nghymru mewn chwaraeon, boed yn cymryd rhan neu'n gwirfoddoli, a bydd hyn yn ein helpu ni i fanteisio ar hynny ymhell wedi i'r byd bacio ei fagiau a gadael Llundain.

"Mae'r cyllid yn bwysig, wrth gwrs, ond sut rydyn ni'n ei ddefnyddio sydd bwysicaf. Byddwn yn buddsoddi mewn partneriaid sydd ag uchelgais i gyflwyno mwy o gyfleoedd i fwy o blant a phobl ifanc, yn arbennig y grwpiau anodd eu cyrraedd rheiny ble mae'n rhaid i ni weld cyfraddau cymryd rhan uwch. Rydyn ni'n cydnabod bod gan bob plentyn hawl i gyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon.

"Rydyn ni'n mynd i weithio gyda'r chwaraeon sy'n fodlon cyflwyno fersiynau byrrach, anffurfiol a chymdeithasol o chwaraeon traddodiadol er mwyn ymateb i'r pwysau amser cynyddol mae pobl yn eu hwynebu.               

"Rydyn ni eisiau gweld blaengaredd ac entrepreneuriaeth, pobl sy'n gallu rhoi i blant ystod eang o sgiliau ar gyfer chwaraeon a'r rhai sy'n creu partneriaethau, yn enwedig rhwng ysgolion a chlybiau.

"Hefyd mae gennym ni dargedau allweddol ar gyfer gwirfoddolwyr."

Gellir dadlau mai'r elfen bwysicaf yn y cynllun, gyda'r brys mwyaf yn perthyn iddi, yw'r angen am sicrhau bod chwaraeon yn cael lle blaenllaw ym maes addysg.

Tra bo Gemau Llundain am weld yr athletwyr elitaidd yn cipio'r aur, y nod cyfatebol i weinyddwyr yng Nghymru yw gweld llythrennedd corfforol yn cael yr un statws â llythrennedd a rhifedd. Dim ond darn arall o'r jig-sô yw dwy awr o AG o safon yr wythnos a theirawr o chwaraeon ysgol neu gymunedol yr wythnos.                                                

"Mae ysgolion yn gymharol debyg i rannau eraill o'r tirlun chwaraeon o ran bod pocedi o waith rhagorol yn digwydd, ac rydyn ni am weld hynny'n dod yn norm" dywedodd Thomas.

"Mae ysgolion yn chwarae rhan allweddol mewn datblygu a chynnal hoffter plant o chwaraeon ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y sylfeini hyn yn rhai cryf. Mae'n rhaid i'r cyswllt rhwng chwaraeon ysgol a gweithgarwch allgyrsiol a chymunedol fod yn llawer cadarnach.

"Yr hyn a'm synnodd i fwyaf am ein hymgynghoriad ni oedd bod ein partneriaid ni wedi tynnu ein sylw at y sector chwaraeon ehangach, yn enwedig Addysg Bellach ac Addysg Uwch, fel cyfranwyr pwysig at gael pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon a sefydlu'r gyfres nesaf o bencampwyr. Roedd cryfder hynny yn rhywbeth nad oedd wedi bod mor amlwg o'r blaen.                    

"Mae'r strategaeth yn ymwneud ag edrych ar arferion gorau, eu rhannu gydag eraill ac ymgorffori egwyddorion a safonau sy'n gwneud gwahaniaeth.      

"Gwneud y gwahaniaeth mwyaf yw'r mantra o ran beth rydyn ni'n geisio ei wneud a byddwn yn dod o hyd i'r bobl a all ein helpu ni i gyflawni hynny."

Yn arbennig yn dilyn llwyddiant y sector wrth lansio Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru y llynedd, un perygl clir yw y gallai cyfres arall o ddelfrydau golli brwdfrydedd y rhai sydd â dylanwad, pŵer ac ewyllys ar y tir.                      

Sefydlwyd y broses drwy ofyn i fforwm prif weithredwyr y cyrff rheoli am eu safbwyntiau am y gwaith.

"Roedd gennym ni gynllun eisoes ar gyfer perfformiad elitaidd, ac un ar gyfer ein hyfforddwyr a'n gwirfoddolwyr ni, ac roedden ni'n teimlo bod bwlch o ran y ddarpariaeth mewn cymunedau ac mewn ysgolion, yn datgan beth yn union sydd angen ei wneud,"ychwanegodd Thomas.

"Mae'rWeledigaeth ar gyfer Chwaraeonwedi ein helpu ni i ddenu pobl i weithio dros chwaraeon ond mae'n rhaid i ni fanylu ynghylch beth sydd raid i bawb sy'n gweithio yn y byd chwaraeon yng Nghymru ei wneud yn weithredol.

"Roedd yr ymatebion i'n hymgynghori cynnar ni'n allweddol - roedden nhw o gymorth i ni berffeithio ac ailddiffinio ein blaenoriaethau.

"Cynhaliwyd yr ymgynghoriad llawn yn gynharach eleni. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad llawn yn gadarnhaol i raddau helaeth, ond roedd rhai unigolion nodedig yn cwestiynu'r angen am  strategaeth genedlaethol. Ers y lansiad, mae'r gefnogaeth i amcanion y strategaeth wedi tyfu i fod yn llawer mwy. Roedd yn fater o amlinellu ein barn ni; nid oedd yr achosion darniog o waith da yn dderbyniol ac nid oedd yn unol â'n dyhead ni i gael pob plentyn wedi gwirioni ar chwaraeon am oes.

"Ond rydyn ni i gyd ar yr un dudalen yn awr ac yn sylweddoli bod llawer o waith i'w wneud.       

"Ceir ffocws cenedlaethol mawr ar yr agenda tlodi plant, ar gyflwyno ac ar gydweithredu. Gall chwaraeon fynd i'r afael â'r rhain a throi siarad yn weithredu. Mae hyn yn ymwneud â chael pob plentyn unigol i gymryd rhan mewn chwaraeon - dim mwy, dim llai.

"Roedd lansio'r gwaith yn llwyddiant ac roedd yn braf gallu ei gysylltu â Llundain 2012 a phwysleisio'r rôl y mae chwaraeon ar lawr gwlad yn ei chwarae o ran llwyddiant elitaidd.

"Ond ni all y sector chwaraeon orffwys ar ei rwyfau gyda hyn. Mae'n rhaid i ni deimlo rhyw frys neu rywbeth arall - rhyw agenda arall - i weithredu. Mae'n rhaid i ni ddal ati i gyflwyno'r achos dros chwaraeon.

"Mae'n rhaid i ni adeiladu ar y dystiolaeth a hefyd fe fyddwn ni'n gwneud mwy o waith ar hyfforddi yn nes ymlaen eleni, ac ar glybiau ffyniannus yn 2013.

"Mae wedi bod yn brosiect mawr - yn fwy felly na datblygu ein Gweledigaeth - gyda llawer iawn o waith yn mynd i sicrhau safbwyntiau ein partneriaid ni.

"Rydw i'n credu bod gennym ni waith i'w wneud ar weithio gyda sectorau eraill a dewis y rhai a all ein helpu ni gyda'n gwaith, sy'n rhywbeth rydw i'n awyddus i fwrw ymlaen ag e.

"Mae llawer o bobl yn dweud wrthyn ni eu bod yn gwerthfawrogi rôl Chwaraeon Cymru fel y strategydd, y cyllidwr a'r hwylusydd.                              

"Byddwn yn hoelio ein sylw ar gynllunio yn y tymor hwy, ac yn ceisio tueddiadau, cyfleoedd newydd, dylanwadau newydd a datblygiadau technolegol er mwyn helpu chwaraeon yng Nghymru i arloesi, arbrofi ac ymateb yn fwy hyderus i dueddiadau a ffyrdd o fyw sy'n newid."

 

Mae'r Strategaeth Gymunedol i'w gweld yn ein gwefan - http://bit.ly/HZMkge

Darllenwch gyfres o flogiau Chwaraeon Cymunedol yma - http://sport-wales.blogspot.co.uk/

 

Neu cymerwch ran ar twitter gan ddefnyddio'r hashtag #communitysport.