Merched a genethod Caerfyrddin yn cael ‘ymarfer cudd’ newydd
Mae cyfleoedd 'ymarfer cudd' yn cael eu cynnal yng Nghanolfan
Hamdden Caerfyrddin fel rhan o ymgyrch i gael merched a genethod yn
heini unwaith
eto.
Mae dau ddosbarth wythnosol newydd yn cael eu cynnal yn arbennig
ar gyfer merched sy'n ymarfer o'r newydd neu sydd eisiau
ailddechrau ymarfer.
Bydd dosbarth newydd hwyliog gyda thrampolinau, cylchoedd,
rhaffau sgipio, bagiau ergydio, beiciau a phwysau'n cael ei gynnal
ar ddyddiau Llun rhwng 4pm a 4.45pm. Sesiwn dwysedd isel fydd hwn,
mewn ymgais i helpu merched i oresgyn y rhwystr ffitrwydd
seicolegol sy'n atal pobl fel rheol rhag rhoi cynnig ar
ddosbarthiadau.
Llun: Hyfforddwr Campfa Fusion Sir Gaerfyrddin, Michelle
Lewis Meredith.
Ac ar ddyddiau Mercher rhwng 4pm a 4.45pm, bydd dosbarth Swmba
ychwanegol yn cael ei gynnal yng nghampfa Fusion er mwyn manteisio
ar yr ymarfer hynod boblogaidd yma.
Bydd y ddau ddosbarth yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n
dechrau ar Awst 5ed.
Dywedodd hyfforddwraig yng Nghampfa Fusion yng Nghaerfyrddin,
Gaynor Jones:
"Mae'n bwysig bod gennym ni sesiynau ar lefel briodol i
gymaint o bobl â phosib. Os nad yw rhywun wedi ymarfer ers peth
amser, does dim posib dechrau ar ddwysedd uchel, oherwydd efallai
nad yw'r corff na'r meddwl yn barod ar gyfer hynny.
"Gweithgareddau hwyliog yw'r rhain a'u nod nhw yw
cuddio'r ymarfer cystal â phosib. Hefyd, maen nhw'n llosgi llawer o
fraster, ac rydyn ni'n gwybod bod hynny'n bwysig i lawer o bobl
sy'n dod yn ôl i roi cynnig ar sesiynau."
Gyda'r sir yn un o bedair ardal yng Nghymru i gael ei thargedu
fel rhan o ymgyrch newyddSut Mae'ch Symud Chi?Chwaraeon Cymru, bydd
nifer o gyfleoedd amrywiol i gael merched i fod yn heini unwaith
eto'n cael eu rhoi ar waith yn ystod y misoedd
nesaf.
Bydd adran chwaraeon a hamdden y Cyngor yn cynnal mwy o sesiynau
mewn canolfannau hamdden ar gyfer merched a genethod, i annog pobl
y sir i ddod â ffrind ac i gymryd y cam cyntaf allweddol hwnnw yn
ôl at arfer o gadw'n
heini.
Mae gwaith ymchwil yn dangos nad yw gwahaniaethau rhwng y
rhywiau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon yn unigryw i Gymru ond
mae'n rhaid i'r bwlch rhwng y benywod a'r gwrywod sy'n cymryd rhan
gael ei gau.
O ran oedolion, mae'r ffigurau'n dangos bod dynion (62%) yn fwy
tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon na merched (51%). Ac mae
dwywaith cymaint o ddynion (22%) yn aelodau o glybiau chwaraeon nag
o ferched (11%).
Nod ymgyrchSut Mae'ch Symud Chi?yw annog mwy o ferched yng
Nghymru i ddychwelyd at chwaraeon, neu ymddiddori mewn camp newydd
am y tro cyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd yn lleol neu i hybu eich
gweithgareddau drwy gyfrwng yr ymgyrch:
*Ewch i www.whatmovesyouwales.org.uk
*Dilynwch ni ar Twitter @sutmaechsymudchi_ a helpwch i ledaenu'r
gair gan ddefnyddio #merchedmewnchwaraeon neu #sutmaechsymudchi
*Hoffwch ni ar Facebook a rhannwch Sut Mae'ch Symud Chi?
Facebook.com/whatmovesyouwales gyda'ch ffrindiau a'ch
cefnogwyr.
*Chwiliwch amdanom ar Pinterest a rhannwch neu hoffwch y pinnau
Sut Mae'ch Symud Chi!
Error loading MacroEngine script (file: WMY_Content_Right.cshtml)