SÊR Y BYD CHWARAEON YNG NGHYMRU’N CEFNOGI YMGYRCH I HELPU ATHLETWYR I FFYNNU
Mae sêr y byd chwaraeon yng Nghymru'n cefnogi ymgyrch i hybu
pwysigrwydd iechyd meddwl da ymhlith athletwyr.

Mae'r Olympiaid Jazz Carlin, Vicky Thornley, Menna Fitzpatrick a
Jamie Baulch ymhlith y 'cyd-athletwyr' sy'n cefnogi'r ymgyrch
#AthletwrCyflawn sydd wedi'i lansio heddiw (Llun 20 Mai) o dan
arweiniad Chwaraeon Cymru.
Nod yr ymgyrch yw annog athletwyr a hyfforddwyr yng Nghymru i
ystyried eu hiechyd meddyliol yn ogystal â chorfforol, a rhannu eu
profiadau gyda'i gilydd.
Esboniodd Owen Lewis, Pennaeth Partneriaethau a Chwaraeon
Elitaidd yn Chwaraeon Cymru: "Rydyn ni'n credu mewn edrych yn y
tymor hir ac yn gyfannol ar ddatblygu athletwyr - person yn gyntaf,
wedyn athletwr, wedyn pencampwr. Nid yw'r athletwyr, y timau a'r
hyfforddwyr mwyaf llwyddiannus yn canolbwyntio ar ennill, ond ar
ddatblygu eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol ac
ysbrydol. Mae iechyd a lles y meddwl yn chwarae rhan enfawr yn y
dull hwn o weithio a nod ymgyrch #AthletwrCyflawn yw tynnu sylw at
hyn a'r problemau niferus mae athletwyr perfformiad uchel yng
Nghymru yn eu hwynebu."
Ymhlith y pynciau trafod bydd paratoi ar gyfer bywyd ar ôl
chwaraeon, delio gyda phwysau chwaraeon elitaidd a sicrhau
cydbwysedd da rhwng bywyd a chwaraeon.
Dywedodd y nofwraig sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, Jazz Carlin:
"Mae chwaraeon wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd i ac roeddwn i
wastad yn cadw at y dywediad 'nofiwr hapus, nofiwr cyflym'. Roedd
camu oddi wrth y byd nofio'n mynd i fod yn anodd bob amser, gan
wneud i mi deimlo ar goll braidd. Yr hyn sy'n bwysig yw dod o hyd i
bethau newydd pwysig sy'n fy ngwneud i'n hapus a chydio yn yr
atgofion rhyfeddol rydw i'n gallu edrych yn ôl arnyn nhw."

Mae'r cyn sbrintiwr, Jamie Baulch, yn cytuno: "Roeddwn i'n
ffodus i gyrraedd y lefel wnes i fel rhedwr ond roedd ymddeol yn 32
oed yn codi ofn arna' i. Doeddwn i heb fod yn y brifysgol ac
athletau oedd popeth i mi, felly rydych chi'n meddwl 'beth ydw i'n
mynd i'w wneud gyda gweddill fy mywyd nawr?' Roedd pobl yn fy
adnabod i fel 'Jamie Baulch y rhedwr' ond roeddwn i wastad yn dweud
mai beth oeddwn i'n ei wneud oedd bod yn rhedwr, nid pwy ydw i.
Roeddwn i'n gwybod yn gynnar iawn yn fy ngyrfa ei bod yn bwysig i
mi gael mwy na hynny."
Bydd yr ymgyrch #AthletwrCyflawn yn rhannu profiadau nifer o
athletwyr er mwyn annog y byd chwaraeon perfformiad uchel yng
Nghymru i gymryd rhan mewn sgyrsiau am les athletwyr a sut gall
athletwyr y genedl ffynnu.
Dywedodd y rhwyfwraig Olympaidd, Vicky Thornley: "Fel athletwr,
mae iechyd meddyliol a chorfforol yn hollbwysig ac yr un mor
allweddol â'i gilydd. Rydw i wedi cael uchafbwyntiau ac
isafbwyntiau yn y byd rhwyfo, ond wrth gael mwy o brofiad, rydw i
wedi sylweddoli bod ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng fy nghamp a fy
mywyd mor bwysig. Er mwyn ennill medalau ydw i'n gwneud hyn, wrth
gwrs, ond rydw i wir yn ceisio mwynhau'r broses a'r siwrnai. Mae
iechyd meddwl yn bwnc mor bwysig ac rydw i wir yn falch o gefnogi'r
ymgyrch #AthletwrCyflawn."

Ychwanegodd y Paralympiad Gaeaf, Menna Fitzpatrick: "Mae'r
ymgyrch Athletwr Cyflawn yn bwysig oherwydd mae chwaraeon yn llawer
mwy na dim ond bod yn y cyflwr corfforol gorau - mae'n ymwneud â
mwynhau beth rydych chi'n ei wneud a sicrhau'r cydbwysedd iawn. Yn
fy nghamp i, rydw i'n ffodus o gael gweithio mor agos gyda Jen. Fel
fy nhywysydd, rydw i'n ymddiried ynddi hi ac mae hynny'n golygu ein
bod ni'n agos iawn. Mae gennym ni gefnogaeth a rhywun i bwyso arno
drwy'r cyfnodau anodd, fel delio gydag anaf, yn ogystal â ffrind i
ddathlu'r llwyddiannau gyda'n gilydd - ac mae hyn o help mawr i fy
lles i. Mae cael proffil uchel yn dod â llawer o gyfrifoldeb ac
rydw i o ddifrif ynghylch hynny ond, yn y pen draw, rydw i wrth fy
modd gyda beth rydw i'n ei wneud ac oherwydd hynny, 'dyw e ddim yn
teimlo fel gwaith!"
I fod yn rhan o'r sgwrs, defnyddiwch
#AthletwrCyflawn neu #ThrivingAthlete ar-lein neu ddilyn sianelau
cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Cymru o ddydd Llun 20fed Mai
ymlaen.