Mae Atgofion Chwaraeon yn dechrau sgyrsiau hanfodol

Ydych chi wedi clywed bar mewn clwb rygbi'n mynd yn hollol dawel ar ôl i rywun awgrymu XV gorau Cymru erioed?

Neu eich swyddfa'n tawelu ar ôl i gydweithiwr hawlio mai perfformiad Dinas Caerdydd yr wythnos ddiwethaf oedd yr un mwyaf cyffrous iddi ei weld erioed?

Naddo - na fi chwaith.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn hoffi siarad am y maes. Nid yn unig hynny, mae atgofion am dimau a gefnogwyd, gemau a wyliwyd neu a chwaraewyd, medalau a enillwyd ac a gollwyd, stadiymau yr ymwelwyd â hwy, a llawer iawn mwy, yn tueddu i bara am oes.

Mae Sefydliad Sporting Memories - elusen sy'n defnyddio chwaraeon i drechu unigrwydd, iselder a dementia - yn rhoi sylw i geisio deffro'r atgofion pwerus yma a'u defnyddio mewn lleoliad cymdeithasol i fod o fudd i bobl hŷn.       

John Charles

Nawr, mae'r sefydliad yn ehangu ei waith i Gymru gan greu 33 o glybiau wythnosol i helpu pobl i ofalu am eu hiechyd meddwl a'u hysgogi i ddal ati i fod yn actif yn gorfforol.                   

Ddydd Sadwrn a dydd Sul (Medi 21 a 22) bydd lansiad Penwythnos Atgofion Cymru - dyma'r digwyddiad cyntaf a daw'n ddathliad blynyddol o chwaraeon, gweithgarwch corfforol a dysgu gydol oes, gan weithredu fel ysgogiad i'r clybiau wythnosol.

Roedd y clybiau ar gyfer dynion hŷn yn wreiddiol, sydd, yn draddodiadol, wedi ei chael yn fwy anodd na merched i gynnal cysylltiadau cymdeithasol a chyfeillgarwch.

Fel cydsylfaenydd a chyfarwyddwr y Sefydliad, dywedodd Tony Jameson-Allen:  "Un o'r rhesymau pam rydyn ni wedi sefydlu'r grŵp yw er mwyn cynnig darpariaeth i ddynion hŷn - oherwydd does dim cymaint â hynny o weithgareddau cymdeithasol sy'n gallu estyn allan at ddynion hŷn a'u denu nhw.

"Mae cynlluniau tebyg wedi canolbwyntio ar ddyddiau ysgol, gwyliau teuluol, y rhyfel, ond weithiau mae'r rheiny'n gallu arwain at atgofion anhapus.

"Ond mae chwaraeon yn tueddu i ddod ag atgofion hapus yn ôl. Mae hefyd yn bwnc y bydd dynion, sy'n ddieithir i'w gilydd efallai, yn teimlo'n gyfforddus yn siarad am oriau amdano."

Mae hynny'n gwneud synnwyr. O gael pedwar dyn mewn ystafell a gofyn iddyn nhw siarad am eu teimladau am deulu a pherthnasoedd, efallai y byddech chi'n gweld sawl un yn anesmwytho yn ei sedd.

Dangoswch lun iddyn nhw o Gareth Edwards yn sgorio cais dros Gymru, neu ofyn a yw Gareth Bale yn well na Ryan Giggs neu Leighton James - neu ydyn nhw'n cofio Ian Woosnam yn ennill y Meistri - ac yn ddi-os fe fydd sgwrs fywiog yn dilyn.     

Ian Woosnam    

Ac nid dim ond dynion, nawr, chwaith. Mae mwy o ferched yn derbyn y cynnig i gymryd rhan ac er bod mwy o ddynion yn y clybiau cymunedol presennol, mae'r drefn yn groes yn aml mewn grwpiau mewn cartrefi gofal ac ysbytai. 

I adlewyrchu hynny, mae un o'r pecynnau adnoddau newydd sy'n cael ei greu gan y sefydliad yn rhoi sylw i athletwyr gorau Prydain erioed.

Gallai hynny olygu llawer o drafod yng nghlybiau Cymru am gampau Tanni Grey-Thompson yn torri sawl record, am Kirsty Wade mewn nifer o Gemau Cymanwlad yn y 1980au, neu wychder beicio Nicole Cooke.

Yn eu tro, gall y trafodaethau hynny ddeffro atgofion am dripiau beicio braf, digwyddiadau chwaraeon a fynychwyd mewn ysgolion, neu ddim ond gemau yn y parc.

Mae'r clybiau'n cynnwys hwylusydd a gwirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddiant a'u gwaith nhw yw helpu i lywio'r sgwrs, gyda help lluniau a chlipiau fideo.

Yn Lloegr a'r Alban, mae 130 o glybiau eisoes, ond mae cyllid gan Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru - drwy'r Gronfa Iach ac Egnïol - yn golygu bod y sefydliad yn lledaenu ei waith yr ochr yma i'r ffin.

"Y cysyniad rydyn ni wedi'i ddatblygu yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf yw defnyddio cymysgedd o luniau, deunydd sain a fideos o gampau a chewri'r byd chwaraeon er mwyn i unrhyw rai dros 50 oed gyfarfod a siarad am chwaraeon," ychwanegodd Jameson-Allen.

"Rydyn ni i gyd angen props i helpu i gofio a hel atgofion. Felly mae'r gwirfoddolwyr yn helpu i sefydlu sesiwn hel atgofion gydag aelodau'r grŵp am hoff atgofion chwaraeon yn gwylio neu'n chwarae.              

"Mae hynny'n arwain at lawer o drafod, dadlau a chwerthin. Er mai chwaraeon fydd sbardun y sgwrs, maen nhw'n gallu mynd i bob math o gyfeiriadau gwahanol - o ddigwyddiadau personol i'r teithio roedden nhw'n arfer ei wneud i wylio eu campau, ac aelodau'r teulu.

"Yr hyn mae'n ei wneud yw hybu ysgogiad gwybyddol, eu gallu i gyfathrebu, a'u hyder i adrodd eu straeon eu hunain. Ond hefyd mae'n eu helpu i ailgysylltu â phobl debyg ac maen nhw'n dod yn ffrindiau yn fuan iawn."

Mae'r clybiau'n dechrau yn aml gyda'r un gân ac yn gorffen gyda rhyw fath o weithgaredd corfforol neu gêm. Mae'r cyfan yn ychwanegu at y ddarpariaeth.

Mae gan y Sefydliad bartneriaid nodedig yng Nghymru - sefydliadau dylanwadol yn y byd chwaraeon yng Nghymru, fel Dinas Caerdydd, y Gweilch a chriced Morgannwg, sy'n cefnogi'r cynllun mewn ffyrdd amrywiol.

Thema Penwythnos Atgofion Cymru yw "Fy Ngêm Gyntaf" gyda phobl o bob oedran yn cael eu hannog i gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol drwy drydar @Sportsmemnet, gan ddefnyddio'r hashnod #GêmGyntaf #MyFirstGame.

A phwy sydd ddim yn cofio eu gêm gyntaf? Os ddim y canlyniad neu hyd yn oed y timau, yn sicr y cyffro, y trip ar y bws, y cipolwg cyntaf ar y cae neu arogl y fan fyrgyrs?         

Bydd data ac effaith gwaith Sporting Memories yng Nghymru yn cael eu hastudio gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe.

Nid yw'n gwella dementia, nac yn ateb i'r holl broblemau eithrio cymdeithasol.

Ond meddai Jameson-Allen: "Rydyn ni'n gweld effaith fawr ar leihau teimladau o unigrwydd. Ac rydyn ni'n gweld data sy'n awgrymu bod lles meddyliol pobl yn gwella.           

"Os gallwn ni leihau unigrwydd, ysgogi pobl i feddwl a'u hannog nhw i fod yn fwy actif yn gorfforol, mae hynny'n beth da."