Mae’r gymnast Bevan yn benderfynol o sicrhau lle yn Tokyo 2020

Mae'r gymnast o Gymru, Brinn Bevan, yn anelu am sedd ar yr awyren i Tokyo y flwyddyn nesaf ar ôl i Brydain Fawr sicrhau lle iddyn nhw eu hunain yng nghystadleuaeth tîm y dynion yng Ngemau Olympaidd 2020.

Sicrhaodd dynion Prydain eu lle ym Mhencampwriaethau'r Byd y mis yma yn yr Almaen, lle daethant yn bumed.               

Ni chafodd Bevan ei ddewis ar gyfer y tîm hwnnw oherwydd i salwch ac anafiadau amharu ar ei gynlluniau. Ond ar ôl methu medal o drwch y blewyn yn y Gemau Olympaidd diwethaf yn Rio de Janiero yn 2016, mae'n benderfynol o ennill ei le yn ôl gyda Phrydain Fawr.

Cyhoeddodd Bevan, sy'n gymwys i chwarae dros Gymru drwy ei ddiweddar dad Glynn, ei fod wedi newid i chwarae dros Gymru yn hytrach na Lloegr ar ddydd Gŵyl Dewi yn gynharach eleni. Mae'n un o nifer o gymnastwyr o Gymru sy'n gobeithio cyrraedd y Gemau Olympaidd yn Japan.

Roedd Joe Cemlyn-Jones, Josh Cook, Emil Barber a Jacob Edwards i gyd yn gydaelodau o dîm Bevan ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Gogledd Ewrop, a gynhaliwyd yng Ngwlad yr Iâ ym mis Medi, lle cipiodd dynion Cymru fedal arian yn ail i Norwy.

Gwnaeth merched Cymru un yn well a chipio'r aur ac mae eu gobeithion am le ym Mhrydain Fawr ar gyfer y flwyddyn nesaf yn nwylo Emily Thomas, Jea Maracha, Poppy Stickler, Holly Jones a Mia Evans.

Yn aelod o Glwb Gymnasteg De Essex yn Basildon, roedd Bevan yn ddwy oed pan gafodd ei gyflwyno i'r gamp - ac 17 o flynyddoedd yn ddiweddarach, cystadlodd am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Rio.

"Roeddwn i'n blentyn bywiog a drygionus iawn," meddai Bevan, sydd bellach yn 22 oed.

"Roeddwn i'n dringo waliau, yn neidio oddi ar y soffa ac yn malu'r dodrefn yn fy nghartref i. Roedd Mam wedi cael digon ac felly fe wnaeth hi fy rhoi i mewn  dosbarth gymnasteg, i losgi dipyn o egni i ddechrau, ond fe ddois i i hoffi'r gamp yn fawr.     

"Fel y digwyddodd pethau, roedd gen i dalent naturiol mae'n debyg ac fe welodd yr hyfforddwyr hynny - gan argymell 'mod i'n dechrau mewn dosbarth gymnasteg addas, nid dim ond un cyflwyniadol."

Brinn Bevan

Gwnaeth gynnydd mor dda fel ei fod wedi mynd ymlaen i helpu tîm Prydain i sicrhau'r pedwerydd safle yn Rio 2016, yn agos iawn at fedal.

Ond roedd amheuaeth fawr am obeithion Bevan o gystadlu ym Mrasil i ddechrau, ar ôl iddo dorri tibia a ffibwla ei goes chwith ym mis Tachwedd 2015.

"Ar ôl y Pencampwriaethau Byd yn 2015, roeddwn i'n aelod o dîm a greodd hanes, drwy ennill ein medal gyntaf erioed mewn gymnasteg yn Glasgow," ychwanegodd.

"Roeddwn i mor gyffrous yn dod yn ôl ac roedd gen i gystadleuaeth ryw bythefnos i dair ar ôl Pencampwriaethau'r Byd, oedd yn un o'n cystadlaethau cenedlaethol ni.

"Roeddwn i'n cynhesu ac fe es i braidd yn gam ar y naid a methu'r mat, gan lanio ar y concrid a thorri tibia a ffibwla fy nghoes.      

"Doeddwn i ddim yn deall beth oedd wedi digwydd i ddechrau ond wrth geisio sefyll fe deimlais i lawer o boen yn fy nghoes - ond doeddwn i ddim yn sylweddoli beth oeddwn i wedi'i wneud. Fe wthiodd fy hyfforddwr i fi'n ôl ar y llawr. Doeddwn i ddim yn sylweddoli beth fyddai'r effaith ar fy mywyd i am y flwyddyn ganlynol.          

"'Wnes i ddim meddwl am sut byddai'n effeithio arna' i nes i mi gyrraedd yr ysbyty. Roeddwn i'n trafod y ffordd orau i symud ymlaen gyda'r meddygon ac fe wnaethon nhw benderfynu rhoi llawdriniaeth. Fe gefais i ddau bin yn y tibia ac wedyn cafodd y ffibwla ei adael i wella ei hun."

Er yr her enfawr, doedd colli ei le yn Rio ddim yn opsiwn i Bevan.   

Yr addewid i'w dad Glynn - a gollodd ei frwydr yn erbyn canser yn 2009 - wnaeth ei gynnal drwy'r cyfnod anodd.                

"Roedd y nyrsys yn dweud 'mae'n siŵr o gymryd blwyddyn i ti gerdded yn iawn eto', ond doeddwn i ddim eisiau derbyn hynny ar y pryd.          

"Doeddwn i ddim yn barod i dderbyn y ffawd honno. Doeddwn i ddim wedi hyfforddi am 18 neu 19 o flynyddoedd o fy mywyd i daflu hynny i ffwrdd i gyd dim ond oherwydd anaf bychan. 

"Y diwrnod ar ôl fy llawdriniaeth, roeddwn i'n ôl yn y gampfa, ond wrth gwrs doeddwn i ddim yn gallu hyfforddi'n iawn, ond fe wnes i geisio cadw'n heini.   

"Roeddwn i'n ceisio cadw'n gryf a dal ati i symud. Pan oeddwn i ddim yn hyfforddi, roeddwn i yn fy ngwely gyda fy nhroed wedi'i chodi i wneud yn siŵr bod y chŵydd yn mynd i lawr. Roedd yn amser anodd.  

"Roedd adegau pan oeddwn i'n amau fy hun. Ond colli fy nhad i ganser oedd y cymhelliant.        

"Ar ei wely angau, fe wnes i addo iddo y byddwn i'n cyrraedd y Gemau Olympaidd - ac y byddwn i'n gwneud fy ngorau glas i gael medal aur. 

"I mi, mae addewidion yn bopeth a doeddwn i ddim yn barod i dorri fy ngair. Dyna beth wnaeth fy nghynnal i drwy'r cyfnod anodd."

Mae Bevan yn cyfaddef ei fod yn rhwystredig am golli lle ar y podiwm yn 2016 ond bydd yn gobeithio am ail gyfle os gall sicrhau lle yn Tokyo.

"Mae'n hanfodol 'mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i gadw mewn siâp wrth baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf.

"Ers Rio, dydi pethau ddim wedi bod y gorau i mi. Rydw i wedi cael llawer o anlwc gydag anafiadau a salwch.

"Mae'n rhaid cadw'n iach - corff a meddwl. Rydw i'n ymarfer mor galed ag erioed a phan rydw i'n camu i mewn i'r gampfa chwe diwrnod yr wythnos, rydw i'n rhoi 100 y cant ac yn gwybod bod fy nghorff i yn y cyflwr gorau y gall fod.   

"Rhaid i mi roi perfformiadau da yn y cystadlaethau cymhwyso a'r treialon y flwyddyn nesaf ar gyfer y tîm. Mae'n rhaid i mi wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd."

Cymeradwyodd y Ffederasiwn Gymnasteg Rhyngwladol fformat newydd i leihau maint y timau gymnasteg Olympaidd o bump o athletwyr i bedwar yn Tokyo, sy'n golygu bod y gystadleuaeth am le ar yr awyren i brifddinas Japan yn fwy nag erioed.                  

Ond os mai penderfyniad a dyfalbarhad yw rhai o'r rhinweddau sy'n ofynnol i gyrraedd y safon, bydd gan Brinn Bevan ddigonedd wrth ei gefn.