Effaith Cymru ar y Gymanwlad

Bydd Cymru'n ymuno â band elitaidd o wledydd a fydd yn cynnig llwnc destun i ddathlu 21ain pen blwydd Gemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur ym mis Ebrill.   

Roedd Tîm Cymru yno ar ddechrau'r Gemau, gan anfon dau nofiwr, Valerie Davies a Paulo Radmilovic, i Hamilton, Canada yn 1930. Roedd Cymru yn un o'r 11 o wledydd yn y digwyddiad cyntaf un ac mae'n un o ddim ond chwech o dimau i fod yn bresennol ym mhob un o'r Gemau byth ers hynny.

Mae'r Ddraig Goch Gymreig wedi cyhwfan yn uchel a balch yn yr 20 o Gemau sydd wedi'u cynnal hyd yma ac mae'n rhan greiddiol o deulu chwaraeon y Gymanwlad sydd â 71 o wledydd a thiriogaethau ar draws 6 chyfandir ac yn gartref i 2 biliwn o ddinasyddion.   

Ar hyn o bryd mae Cymru'n 10fed ar y rhestr o fedalau ers y dechrau un, gyda 270 o fedalau - 57 aur, 86 arian a 127 efydd. Mae'r rhain wedi cael eu hennill gan rai o athletwyr gorau'r wlad a phedair blynedd yn ôl daeth y tîm a aeth i Glasgow adref gyda mwy nag erioed o fedalau - 36.

Wales Team

Y dyddiau hyn rydyn ni'n gweld athletwyr proffesiynol, llawn amser ochr yn ochr ag amaturiaid chwaraeon hynod dalentog. Ond mae un peth wedi aros yr un fath - y dyhead i gystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad. Mae'n parhau'n binacl eu llwyddiant i lawer iawn o brif athletwyr Cymru.        

Mae'r balchder a'r angerdd o fod yn rhan o Dîm Cymru i'w weld yn glir ledled y wlad. Ac mae hynny'n wir am y tîm eleni eto. Mae'r un sy'n dal y record am daflu'r morthwyl, Osian Jones, y capten pêl rwyd Suzy Drane a'r bocsiwr Billy Edwards i gyd yn dod o'r gogledd, mae'r rhedwr marathon Andrew Davies yn dod o'r Trallwng, y neidiwr clwydi Caryl Granville o Gaerfyrddin, y cerddwr rasys Heather Lewis a'r bocsiwr Mickey McDonagh yn hanu o Sir Benfro, y feicwraig Rachel James o'r Fenni, y beiciwr Steve Williams a'r saethwr Coral Kennerley o Aberystwyth, y bowliwr Jess Sims a'r athletwr Tom Marshall o Landrindod ac mae'r prif ddinasoedd yn y de, Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd, i gyd yn gartref i sawl aelod o'r tîm.               

Mae posib olrhain dylanwad Cymru bob cam yn ôl i sylfaenu jamborî chwaraeon y Gymanwlad. Yn 1891, ysgrifennodd y Parchedig John Astley Cooper atThe Timesyn cynnig 'Cystadleuaeth a Gŵyl Holl Brydeinig a Holl Anglicanaidd' i'w chynnal bob pedair blynedd gyda'r nod o 'gynyddu ewyllys da a dealltwriaeth dda o'r Ymerodraeth Brydeinig'. 

Er ei fod wedi'i eni yn Adelaide, roedd mam y Parchedig Cooper, a raddiodd o Rydychen, yn Gymraes o Sir Ddinbych. Aeth 39 o flynyddoedd heibio cyn i'w freuddwyd gael ei gwireddu pan gynhaliwyd Gemau cyntaf yr Ymerodraeth Brydeinig yng Nghanada chwe mis ar ôl ei farwolaeth yn 1930.

Yn y Gemau cyntaf hynny roedd 400 o athletwyr ac enillodd Gymru ddwy fedal arian ac un efydd - enillwyd y tair medal gan nofwraig ifanc hynod fedrus a nofiodd am y tro cyntaf yn Llyn Parc y Rhath. Hyfforddwraig Valerie Davies oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd, sef Irene Steer, a enillodd ei theitl Cymreig cyntaf yn 12 oed.

Erbyn iddi droi'n 15 oed, roedd yn ennill teitlau Ewropeaidd yn nhîm Prydain Fawr ac ar ôl ennill tair medal yn Hamilton, aeth ymlaen i ennill dwy fedal efydd yng Ngemau Olympaidd 1932 ac wedyn arian arall yn yr ail Gemau Cymanwlad yn 1934.

Enillodd sawl athletwr arall o Gymru fedal yn Hamilton, ond fel rhan o dîm Lloegr. Cipiodd Howard Ford, a aned ym Mhenarlâg, yr arian am neidio â pholyn, cafodd Reg Thomas fedal arian yn yr 800m ac aur yn y ras filltir, ac roedd dwy fedal aur arall i'r rhwyfwr o Gymru,  Hugh Edwards, yn wythawd a phedwarawd y dynion. Hefyd enillodd y bocsiwr a aned yng Nghaerdydd, Albert Love, fedal efydd.    

Felly gwnaeth Gymru argraff ar unwaith ar Gemau'r Gymanwlad a chynyddodd y niferoedd a'r medalau dros y blynyddoedd. Roedd chwe medal yn Llundain yn 1934, gyda Davies yn ennill un arall yn y pwll, ond roedd rhaid aros tan 1938 a'r gystadleuaeth yn Sydney cyn i Gymru brofi ei heiliadau euraidd cyntaf yn y Gemau. 

Anfonodd Gymru dîm o bedwar i Sydney - bachgen oedd yn dosbarthu nwyddau i gigydd, myfyriwr, rheolwr ffatri a phrentis ffitiwr - a threuliodd y pedwar dri mis ar gwch yn cyrraedd yno. Bob pythefnos roeddent yn stopio i ymarfer.

Yn ôl y sôn, y pumed dewis i fynd ar y trip oedd y bocsiwr o'r Barri, Denis Reardon, ond ef oedd yr unig un oedd yn gallu mynd. Ac roedd hynny'n ffodus iawn, oherwydd fe greodd hanes yn y byd chwaraeon yn Stadiwm Bae Rushcutters ddydd Iau, 10 Chwefror, 1938, fel y person cyntaf yn gwisgo fest Cymru i ennill medal aur yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig fel roeddent yn cael eu galw bryd hynny.

Yn y rownd derfynol, roedd Reardon yn herio pencampwr Pwysau Canol ABA 1937, gŵr a aned yn Abertawe a'r ffefryn clir, Maurice Dennis. Synnodd y Cymro bawb a sicrhau lle iddo'i hun yn y llyfrau hanes. Ddiwrnod yn ddiweddarach, enillodd un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, Jim Alford, y ras filltir ar Gae Criced Sydney.

Yn y dyddiau hynny, roedd y straeon am aberth perfformwyr Cymru er mwyn cyrraedd y Gemau'n chwedlonol. Roedd Reardon yn brentis yn ffatri beirianneg Curran yng Nghaerdydd ac fe gododd ei gydweithwyr arian rhyngddynt er mwyn ei helpu i gyrraedd y Gemau.

Roedd y beiciwr o Gaerdydd, Reg Braddick, ar y trip hefyd ac roedd yn agos i'r blaen yn y ras ffordd nes cael pyncjar. Doedd ganddo ddim digon o arian i brynu olwyn sbâr ac felly doedd dim siawns am fedal chwaith.

O symud ymlaen i 1982, mae athletwr chwedlonol arall o Gaerdydd yn tynnu ein sylw ni, y cerddwr rasys Olympaidd, Steve Barry. Chwalodd record 30 cilometr y Gymanwlad wrth ennill y fedal aur. Roedd yn ymarfer am yn ail â gwneud ei waith pum diwrnod yr wythnos fel plastrwr.

Howard Winstone oedd yr unig Gymro i gipio medal aur pan ddaeth y Gemau i Gaerdydd yn 1958. Cipiodd y fedal honno yn y cylch bocsio yng Ngerddi Sophia. Ac yntau yn ei arddegau ar y pryd, roedd wedi bod yn gweithio mewn ffatri deganau yn ei dref enedigol, Merthyr, ond dywedodd yn syth y byddai'n troi'n broffesiynol ar ôl trechu'r Awstraliad, Ollie Taylor, i gipio'r aur yn rownd derfynol y pwysau bantam.

Straeon am bobl gyffredin yn ymarfer i wneud pethau anghyffredin, wedi'u hysbrydoli gan gyfle i gynrychioli eu gwlad a gwisgo coch Cymru. Mae'r un peth yn wir yn 2018 wrth i griw o athrawon, ffisiotherapyddion, myfyrwyr, cyfrifwyr yn ogystal â nifer o athletwyr proffesiynol anelu am yr aur a'r clod a'r bri ar yr Arfordir Aur.             

 

CADWCH LYGAD AM YR ATHLETWYR YMA O GYMRU AR YR ARFORDIR AUR

  • Bydd bowlwyr Cymru'n teithio i Awstralia'n llawn hyder gydag enillydd teitl Pencampwr Pencampwyr Senglau'r Byd, Laura Daniels, yn arwain y ffordd. Enillodd ei choron yn Sydney y llynedd, ac yn ddiweddar daeth Ross Owen yn ail yn rownd derfynol Senglau Ieuenctid y Byd ar yr Arfordir Aur.            
  • Mae gan Anwen Button ddwy fedal eisoes o Gemau'r Gymanwlad a nawr mae'r fenyw 45 oed yn anelu am yr aur wrth gystadlu am y pumed tro yn olynol yn y Gemau, gan ymuno â Caroline Taylor ac Emma Woodcock yn y Triawdau.
  • Enillodd Lauren Price fedal efydd yn Glasgow yn y cylch bocsio ac mae eisiau defnyddio'r Arfordir Aur fel carreg gamu euraid ar ei llwybr at geisio ennill medal Olympaidd yn Tokyo yn 2020 yn y dosbarth 69kg.
  • Bydd Sammy Lee yn gobeithio ychwanegu at y fedal aur a enillodd yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas y llynedd wrth ymladd yn y categori 81kg, ac mae pencampwr 60kg Prydain, Mickey McDonagh, yn gystadleuydd arall sydd â siawns am fedal yn y cylch.
  • Yn y pwll, bydd gan Gymru Jazz Carlin a Georgia Davies yn anelu am fwy o fedalau aur wrth iddyn nhw amddiffyn eu teitlau Cymanwlad o Glasgow bedair blynedd yn ôl.
  • Bydd Daniel Jervis a Calum Jarvis yn gobeithio gwella ar eu medalau efydd yn 2014, a bydd Chloe Tutton yn ceisio gwella ar ei phedwerydd safle yn y Gemau Olympaidd yn y dull brest 200 metr.
  • Mae gan Elinor Barker a Danni Rowe fedalau aur Olympaidd eisoes yn eu casgliad a byddant yn rhan greiddiol o sgwad gweithgaredd tîm y merched sy'n edrych yn hynod gystadleuol.
  • Enillodd Barker ddwy fedal yn Glasgow a bydd yn gobeithio am fwy yn Awstralia, lle bydd ei chwaer iau, Megan, yn ymuno â hi yn y cystadlaethau beicio.     
  • Yng nghystadlaethau beicio'r dynion, cadwch lygad am rasiwr ffordd Team Sky, Luke Rowe, wrth iddo geisio dilyn yn ôl troed campau euraidd Geraint Thomas yn Glasgow, a bydd Lewis Oliva yn fygythiad mawr yn y sbrintio trac.
  • Daeth gymnasteg â mwy nag erioed o fedalau i Gymru yn Glasgow ac mae Laura Halford yn edrych yn beryglus iawn fel un i gamu i esgidiau euraidd Frankie Jones. Mae disgwyl i bencampwraig rhythmig Prydain ychwanegu at ei chasgliad o fedalau.                
  • Ar y maes saethu, bydd Craig Auden yn gobeithio gwella ei bedwerydd safle yn y gystadleuaeth Pistol Aer 10 metr ym Mhencampwriaethau Saethu diweddar y Gymanwlad yn Brisbane ac mae ganddo siawns dda iawn o ennill medal.
  • Felly hefyd Ben Llewellin yn y Saethu Colomennod Clai. Enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Saethu'r Gymanwlad gyda sgôr yn cyfateb i'r record byd, ac mae hynny'n argoeli'n dda ar gyfer yr Arfordir Aur.
  • Bydd Tesni Evans yn teithio i Gemau'r Gymanwlad am yr eildro ar ôl cipio teitl Prydain am chwarae sboncen - y Gymraes gyntaf i wneud hynny - ac ennill chweched coron yng Nghymru.               
  • Yn y tennis bwrdd, bydd Charlotte Carey yn mynd i Gemau'r Gymanwlad am y trydydd tro a hithau'n ddim ond 21 oed a bydd Anna Hursey yn cystadlu am y tro cyntaf yn ddim ond 11 oed.
  • Mae'r codwr pwysau Olympaidd, Gareth Evans, yn gobeithio y bydd tri chynnig i Gymro'n dod â lwc iddo, ar ôl dod mor agos i'r podiwm yn Glasgow wrth iddo frwydro am fedal yn y dosbarth 62kg.
  • Mae Laura Hughes wedi cipio'r aur eisoes yn yr arena codi pwysau yn y dosbarth 75kg ym Mhencampwriaethau'r Gymanwlad y llynedd a bydd y dwbwl ar ei meddwl hi yn sicr.          
  • Mae Dai Green yn ôl ar y trac i gystadlu ar y lefel uchaf yn y clwydi 400 metr ar ôl cael y gorau ar bum mlynedd o anafiadau. Bydd â'i lygaid ar ail fedal aur i gyd-fynd â'r un a enillodd yn Delhi yn 2010.
  • Hefyd bydd Heather Lewis yn gobeithio dod adref gyda medal aur yn y cerdded 20 cilometr, camp y mae hi yn y tri safle uchaf ynddi yn y Gymanwlad ar hyn o bryd.                
  • Yn y chwaraeon tîm, bydd carfannau hoci'r merched a'r dynion yn gobeithio parhau â'u rhediad da diweddar a dringo safleoedd y byd, ac felly hefyd y sgwad pêl rwyd.           
  • Mae chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Justin Tipuric a Hallam Amos, wedi cael lle yn sgwad rygbi saith y dynion i roi hwb i'r criw a bydd yr Olympiad Jazz Joyce yn arwain ymgyrch y merched yn y gamp yma.