Cymru’n dod yn fwy egnïol: Arolwg swyddogol yn datgelu bod mwy na miliwn eisiau gwneud mwy o chwaraeon yng Nghymru

Mae Arolwg diweddaraf Chwaraeon Cymru ar Oedolion Egnïol yn dangos potensial i gael mwy o oedolion i wirioni ar chwaraeon ac yn gwirfoddoli ac mae'r ffigurau ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi gwirioni yn groes i'r duedd ledled y DU

Mae nifer yr oedolion sydd wedi gwirioni ar chwaraeon - yn cymryd rhan deirgwaith yr wythnos neu fwy - wedi cynyddu (41%) yng Nghymru yn ôl yr Arolwg ar Oedolion Egnïol swyddogol a ryddhawyd heddiw gan Chwaraeon Cymru.

Ar ôl siarad gyda mwy nag 8,000 o bobl 15 oed a hŷn yng Nghymru, mae'r canlyniadau diweddaraf yn dangos cynnydd ers 2012 (39%), gan adeiladu ar y cynnydd yn y cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru sydd i'w weld ers 2008 (29%) a chynnal y cyfranogiad ers Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Mae'r arolwg yn datgelu'r canlynol:

  • Byddai 67% o'r rhai nad ydynt eisoes 'wedi gwirioni ar chwaraeon' (cymryd rhan 3 gwaith yr wythnos neu fwy) yn hoffi gwneud mwy o chwaraeon - sef1 miliwnyn rhagor o bobl yng Nghymru.
  • Mae bylchau o hyd rhwng cyfranogiad y dynion (46%) a'r merched (35%), a phobl anabl (29%) a heb anabledd (48%), ac mae'r rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru'n llai tebygol o fod wedi gwirioni ar chwaraeon (39%).
  • Er bod cyfran y gwirfoddolwyr wedi gostwng ryw ychydig o 10% (2012) i 9% o oedolion Cymru, mae 235,000 o wirfoddolwyr yn parhau i roi i ni 10 awr o chwaraeon y mis, o gymharu ag 8 awr y mis yn 2012 - dyma gynnydd o 25% yn yr oriau a wirfoddolir a dwbl y nifer o wirfoddolwyr o gymharu â 2008 (113,000)
  • Mae'r cynnydd yn yr oriau gwirfoddoli'n golygu bod gwerth economaidd gwirfoddoli mewn chwaraeon yng Nghymru yn£300 miliwnbron - sy'n cyfateb i15,000o weithwyr llawn amser.
  • Mae 20% o'r rhai nad ydynt yn gwirfoddoli mewn chwaraeon ar hyn o bryd yn dweud yr hoffent wneud hynny yn y dyfodol - mae hynny'n cyfateb i fwy na470,000o bobl yng Nghymru.
  • Mae gwirfoddolwyr chwaraeon yn elwa oddi ar y cae hefyd oherwydd mae'r ffigurau'n dangos eu bod 82% yn fwy tebygol o ddweud bod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn.
  • Mae'r gweithgareddau chwaraeon mwyaf poblogaidd ar gyfer oedolion yn cynnwys beicio, nofio a rhedeg.       

Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell:

"Mae'r canlyniadau hyn yn dangos ein bod ni wedi llwyddo i gynnal y cynnydd anhygoel a welwyd yn nifer y gwirfoddolwyr a'r cyfranogwyr ar ôl Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Rydw i'n falch o hyn. Rydyn ni wedi gweithio'n galed i sicrhau gwaddol parhaus ac rydyn ni wedi llwyddo i fynd yn groes i'r duedd ledled gweddill y DU, sydd wedi gweld y lefelau'n amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

"Mae potensial enfawr i gynnwys mwy o bobl ac rydw i'n falch iawn o weld dyhead mor fawr i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a gwirfoddoli yng Nghymru. Yr her nawr i ni ac i'r sector chwaraeon yw datblygu cynnig sy'n diwallu anghenion y bobl hynny sydd eisiau rhoi cynnig ar fwy o chwaraeon. Rydyn ni wedi gweld mentrau eithriadol lwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felParkruna rhwydwaith beicioBreeze, sydd wedi cynnwys pobl a arferai feddwl nad oedd chwaraeon ar eu cyfer nhw. Mae'r ddau gynllun yma wedi gwneud hyn drwy weithio'n agos gyda chymunedau er mwyn datblygu darpariaeth sy'n diwallu anghenion y cyfranogwyr yn lleol.     

"Does dim rhaid i chi fod yn athletwr elitaidd i fod yn cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Y tad sy'n chwarae pêl droed ar nos Fercher, y teulu sy'n rhedeg gyda Parkrun ar fore Sadwrn a'r mamau sy'n cyfarfod i wneud cylchedau yn y parc cyn danfon neu nôl plant o'r ysgol - dyma athletwyr Cymru a nhw yw dyfodol chwaraeon cymunedol yng Nghymru. Maen nhw wedi dod o hyd i'r peth sy'n eu difyrru ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n creu mwy o gyfleoedd i'r 1 miliwn yma sydd eisiau gwneud mwy o chwaraeon ddod o hyd i'w 'peth' nhw. Os mai hynny yw darganfod gweithgareddau newydd, cyfarfod pobl newydd neu gyrraedd nodau personol, mae'n rhaid i ni eu denu nhw i fod yn egnïol. Dychmygwch yr effaith ar iechyd a lles ein cenedl ni pe baem ni'n llwyddo!"

Ymhlith canlyniadau eraill yr arolwg sy'n werth eu crybwyll mae:

  • Os ydych chi'n credu nad ydych chi'n heini rydych chi'n llawer llai tebygol o fod wedi gwirioni ar chwaraeon.
  • Mae'r bobl hynny sy'n credu nad oes ganddyn nhw ddigon o hyder yn llawer llai tebygol o fod wedi gwirioni ar chwaraeon. Er hynny, os ydych chi'n credu bod eich gallu chwaraeon cyffredinol chi'n well na'r rhan fwyaf o bobl, rydych chi naw gwaith yn fwy tebygol o fod wedi gwirioni.
  • Os yw eich ffrindiau a'ch teulu'n cymryd rhan, rydych chi ddwywaith a mwy yn fwy tebygol o fod wedi gwirioni ar chwaraeon.

Ychwanegodd Powell:

"Rydyn ni wedi dangos bod gan chwaraeon yng Nghymru yr adnoddau i fod yn llwyddiannus.

"Er hynny, er ein bod ni wedi llwyddo i gynnal y cyfranogiad, a'i gynyddu ar lefel chwaraeon ysgol, mae'r arolwg yma'n dangos nad ydyn ni eto'n gweld hyn yn trosi i fod yn gynnydd sylweddol yn y cymryd rhan ymhlith oedolion yn y gymuned, ac mae'r bylchau cymryd rhan ystyfnig rhwng dynion a merched a phobl anabl a heb anabledd yn dal i fodoli. Felly bydd rhaid i ni ddal ati i ddatblygu ein dull ni o weithredu er mwyn creu darpariaeth chwaraeon yng Nghymru sy'n diwallu eu hanghenion."

"Yn union fel plant, mae oedolion hefyd yn hoffi teimlo bod ganddyn nhw'r sgiliau a'r hyder i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'n eu cymell nhw i gymryd rhan. Mae cyfleoedd pleserus, cystadleuaeth o safon uchel neu gyfleoedd chwaraeon cymdeithasol, a chefnogaeth ffrindiau a theulu, i gyd yn agweddau sy'n gwneud chwaraeon yn rhan allweddol o fywyd rhywun ac mae'n rhaid i ni gofio hyn wrth ddarparu chwaraeon."