Bocsio yng Nghymru – y rhai i’w gwylio
Yn Tokyo y gwelwyd un o orchestion chwaraeon mwyaf Cymru
erioed yn ôl yn 1964 pan enillodd Lynn Davies aur Olympaidd yn y
naid
hir.
Y flwyddyn nesaf, mae'r Gemau'n dychwelyd i brifddinas
Japan ac mae llawer o athletwyr o Gymru â'u llygaid ar fedal o liw
tebyg. Yn eu plith mae deuawd euraid Gemau'r Gymanwlad y llynedd, y
bocswyr Sammy Lee a Lauren Price.

Pic: Welsh Boxing
Cadarnhawyd cynnydd Lee o fod yn berson ifanc addawol yn
ei arddegau i gystadlu am deitl Olympaidd yn y categori pwysau
ysgafn trwm 81kg gan ei fuddugoliaeth wych ar yr Arfordir
Aur.
Ychydig fisoedd ynghynt roedd wedi cael aur yng Ngemau
Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas, ond eto yno roedd yn Awstralia
yn cymysgu gyda'r dynion yn ei gystadleuaeth gyntaf ar lefel hŷn,
gan orffen ar y brig.
"Mae ganddo bopeth a does dim rheswm iddo fethu cymhwyso
ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo. Rwy'n siŵr y bydd yn llwyddo, yn
codi ambell ael ac yn creu sawl sioc," dywedodd hyfforddwr bocsio
cenedlaethol Cymru, Colin Jones, a oedd yng nghornel Lee y
llynedd.
"Dim ond ers dwy flynedd oedd e wedi bod ar ein rhaglen ni
ac fe aethon ni ag ef i lawr o 91 i 81Kg. Fe aeth i Awstralia heb
fod mewn cystadleuaeth hŷn a dyna pam oeddwn i mor gyffrous am yr
hyn roedd e wedi'i gyflawni.
"Roedd yn arbennig iawn beth wnaeth e ar yr Arfordir Aur a
dydw i ddim yn meddwl y bydd yn cael ei wneud eto. Mae'n hynod
aeddfed ac yn arbennig
iawn.
"Os bydd yn gwrando ar y bobl sydd eisiau ei lywio i'r
cyfeiriad iawn, does dim byd na fydd yn gallu ei wneud. Mae wedi
bod yn gweithio o wersyll Team GB yn Sheffield ers dod yn ôl o
Gemau'r Gymanwlad ac rydw i'n meddwl ei fod yn ddigon ifanc i wneud
Gemau'r Gymanwlad arall dros Gymru cyn troi'n broffesiynol
efallai."
Os oedd ennill teitl y Gymanwlad yn profi i bawb beth oedd
Lee yn gallu ei wneud, cael ei dderbyn yn aelod o Sgwad Podiwm Team
GB yn gweithio o Athrofa Chwaraeon Lloegr yn Sheffield oedd y cam
allweddol ymlaen. Gyda Rob McCracken yn cadw golwg fanwl arno, mae
wedi gallu datblygu ei dalent ac adeiladu tuag at Tokyo.
Pan gafodd ei ddewis i ymuno â'r gwersyll yn Sheffield,
buan iawn y sylweddolodd Lee arwyddocâd y symud.
"Mae fy mreuddwyd i o gystadlu yn y Gemau Olympaidd gam yn
nes ac yn bosibilrwydd realistig erbyn hyn ar ôl cael fy newis ar
gyfer Sgwad Podiwm Team GB. Fe fydda' i'n byw ym mhencadlys Team GB
yn Sheffield ac yn hyfforddi fel athletwr llawn amser. Fe hoffwn i
ddiolch i fy holl hyfforddwyr, teulu, ffrindiau a chefnogwyr sydd
wedi fy helpu i i gael fy newis," meddai Lee ar ei gyfrif Twitter
ar y pryd.
Mae'n un o ddau focsiwr yn y dosbarth 81Kg, gyda Ben
Whittaker o Loegr, a dangosodd faint mae'n datblygu drwy ennill
medal arian ym Mhencampwriaethau Dan 22 Ewrop yn Vladikavkaz,
Rwsia, ym mis Mawrth. Daeth yn agos iawn at gipio'r aur yn y rownd
derfynol pan gafodd Oleksander Pokhrebnyak o'r Wcrain y ddedfryd
mewn penderfyniad rhanedig.
"Fe ddechreuais i gyda Team GB ar 9 Mai y llynedd ac mae'n
bopeth roeddwn i ei eisiau. Fe wnes i hyfforddi llawer ar gyfer yr
Arfordir Aur ac roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i'n mynd i ddod oddi
yno gydag unrhyw beth llai na medal aur," dywedodd Lee, sydd
bellach yn 20 oed.
"Roedd yn gymaint mwy ar yr Arfordir Aur nag yng Ngemau
Ieuenctid y Gymanwlad a hon oedd fy nghystadleuaeth hŷn gyntaf i.
Roedd yn wahanol iawn heb warchodwyr pen ac yn erbyn dynion, nid
bechgyn ifanc. Doedden nhw ddim mor hawdd eu taro â'r ieuenctid ond
fe wnes i ddangos iddyn nhw pwy oedd y dyn.
"Ond fe ddechreuodd y gwaith caled pan ddois i'n ôl a mynd
i fyny i Sheffield. Rydych chi'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd a
mynd i Tokyo yw'r nod - rydw i eisiau mynd yno ac ennill yr aur
eto."
Bydd cymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd yn haws i Lee a
bocswyr eraill Cymru sy'n hyfforddi yn Sheffield o berfformio'n dda
ym Mhencampwriaethau Byd AIBA yn Yekaterinburg, Rwsia, 5-21 Medi.
Mae hwn yn dwrnamaint cymhwyso swyddogol ar gyfer Tokyo a hefyd
pencampwriaethau'r merched yn Ulan-Ude, Rwsia, 14-31
Hydref.
Mae Price a Chymraes arall a gipiodd fedal yng Ngemau'r
Gymanwlad y llynedd, Rosie Eccles, yn breuddwydio am gyrraedd y
Gemau Olympaidd ac mae'r gyn chwaraewraig bêl droed dros Gymru,
Price, y fenyw gyntaf o Gymru i ennill aur yn y cylch ar yr
Arfordir Aur, yn rhif 3 yn y byd ar hyn o bryd yn y 75Kg tu ôl i
Qian Li o Tsieina a Nouchka Fontijn o'r Iseldiroedd.
Trodd ei sylw at focsio ar ôl ennill 52 o gapiau dros
Gymru mewn pêl droed a gellir dadlau mai hi yw'r focswraig orau o
Brydain yn y rhengoedd amatur ar hyn o bryd. Mae'n breuddwydio un
diwrnod am ddilyn yn ôl troed Nicola Adams gan nid yn unig ennill
aur Olympaidd ond efallai camu i fyny i'r rhengoedd proffesiynol
hefyd
wedyn.
Dilynodd ei llwyddiant euraid gyda Thîm Cymru drwy ennill
dwy fedal arall y llynedd, gydag efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd
yn New Delhi, India, a'r Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Sofia,
Bwlgaria.
"Er pan oeddwn i'n blentyn bach, fy mreuddwyd i erioed
oedd cael mynd i'r Gemau Olympaidd. Fy ngwaith i nawr yw ymarfer a
pharatoi yn y ffordd orau bosib," meddai Price.
"Mae'r wyth uchaf ym Mhencampwriaethau'r Byd yn cymhwyso
am y Gemau Olympaidd a fy mhrif nod i yw Tokyo. Wedyn fe fyddwn
ni'n gweld beth sy'n digwydd.
"Mae bocsio wedi mynd o fod yn hobi i fod yn swydd - ac
rydw i wrth fy modd yn fy swydd. Mae Sheffield yn rhaglen o safon
byd ac mae wir wedi codi safon bocsio ym Mhrydain. Fe ddaeth Nicola
Adams drwy'r rhaglen, ac Anthony Joshua.
"Mae gennych chi eich tŷ eich hun ac rydw i'n byw'r
freuddwyd. Rydyn ni'n codi am 7.00am ac wedyn allan ar y trac neu
yn y gampfa. Wedyn rydyn ni'n gwneud gwaith cryfder a siapio neu
waith pad ac rydyn ni'n ergydio yn y
pnawn.
"Fe wnaeth y pedair blynedd rhwng Glasgow a'r Arfordir Aur
hedfan heibio a bydd yr amser yn hedfan rhwng nawr a Gemau
Olympaidd Tokyo."
Mae Eccles a Mickey McDonagh yn academi Sheffield hefyd ac
yn dilyn ei medal arian ar yr Arfordir Aur, cafodd Eccles ddwy
fuddugoliaeth a daeth yn drydydd mewn cystadlaethau 69Kg
rhyngwladol.
Hefyd mae McDonagh, pencampwr Bocsio 64Kg Prydain 2017 ac
enillydd medal efydd gyda Thîm Cymru yn Awstralia y llynedd, yn dal
i ddatblygu'n dda ac mae cynnyrch Clwb Bocsio Amatur Pont Fadlen
â'i lygaid ar docyn i Japan yn 2020.
Pedwar o focswyr Cymru'n ymgiprys am yr aur yn Tokyo?
Byddai hynny'n gryn gamp!