Arbediad blynyddol o £295 miliwn i’r GIG yng Nghymru drwy fod yn egnïol

Canfu'r ymchwil a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru ac a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil y Diwydiant Chwaraeon bod arbediad o £295.17 miliwn wedi'i wneud yn 2016/17 wrth i oedolion gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer ar ddwysedd cymedrol. 

Mae'r adroddiad yn cysylltu'r arbedion â llai o drin ar salwch mawr, yr amser cyffredinol a dreulir ar apwyntiadau meddyg teulu a llai o bwysau ar staff a gwasanaethau rheng flaen y GIG.

Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at y ffaith bod y rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cymedrol yn rheolaidd 30% yn llai tebygol o ddioddef o afiechyd coronaidd ar y galon, strôc, a dementia, 24% yn llai tebygol o ddioddef o ganser y colon a 21% yn llai tebygol o ddioddef o iselder clinigol.          

Hefyd mae'r canfyddiadau'n dynodi bod £23.18m wedi'i arbed yn ystod y flwyddyn drwy lai o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl gan oedolion egnïol yng Nghymru, a chafodd £16.66m ei arbed drwy leihau nifer yr ymweliadau â meddygon teulu.

 

 

Canran y risg is o ddatblygu 

Arbediad   

Afiechyd Coronaidd ar y Galon

30%

£97.62m

Diabetes Math 2

10%

£33.32m

Canser y Fron

20%

£11.01m

Canser y Colon

24%

£7.99m

Dementia

30%

£102.13m

Iselder Clinigol

21%

£3.43m

 

Nawr mae Chwaraeon Cymru eisiau adeiladu ar y gwaith sydd wedi'i wneud eisoes rhwng y sectorau chwaraeon ac iechyd ac eraill, er mwyn cynyddu'r manteision a'r arbedion ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Dr Rhodri Martin o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ymgynghorydd cyntaf y GIG yng Nghymru ar gyfer meddygaeth ymarfer a chwaraeon: 

"Rydyn ni'n gwybod erioed bod cydberthynas bositif rhwng bod yn egnïol yn gorfforol ac iechyd da yn gyffredinol. Yr hyn mae'r adroddiad yma'n tynnu sylw ato yw bod posib i rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein gwasanaethau iechyd ni gael eu goresgyn drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol, bod hynny eisoes yn digwydd, a bod angen i ni weld mwy ohono.

"Mae'r dystiolaeth yn glir, bydd cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar unrhyw lefel yn cael effaith bositif ar eich iechyd corfforol a meddyliol ac, yn ei dro, bydd hyn yn helpu i leihau'r pwysau a'r baich ar ein gwasanaeth iechyd ni.  

"Mae'r adroddiad yn cyflwyno achos cryf dros well cydweithredu rhwng y sectorau chwaraeon ac iechyd. Mae'n tynnu sylw at yr angen am lawer mwy o ddefnydd o weithgarwch corfforol fel opsiwn real yn lle moddion ar bresgripsiwn, fel dull atal ac fel rhan o wella."

Ceir nifer o fentrau gweithredol ledled Cymru ar hyn o bryd sy'n cynnig chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel dull atal neu fel cyfrwng i wella salwch. Yn ychwanegol at y Cynllun Cyfeirio at Ymarfer Cenedlaethol, lle mae meddygon teulu'n rhoi presgripsiwn o weithgarwch corfforol, mae mentrau fel y cyswllt rhwng Golff Cymru a'r Gymdeithas Strôc yn cael llwyddiant mawr, gyda chwaraeon yn helpu pobl i oresgyn neu wella o salwch.

Yr haf diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru, fanylion y Gronfa Iach ac Egnïol sy'n ceisio gwella iechyd corfforol a meddyliol ymhlith y bobl fwyaf segur, drwy greu cyfleoedd i fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Cafwyd nifer annisgwyl o uchel o geisiadau am gyflwyno gweithgareddau o'r fath.              

Ychwanegodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell:  

"Mae rhai esiamplau gwych ledled Cymru o chwaraeon ac iechyd yn cydweithio i gael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol. Mae'r ffigurau hyn yn dangos gwir fantais chwaraeon a gweithgarwch corfforol i'r gyllideb iechyd, ond tu ôl i'r ffigurau mae straeon di-ri am unigolion sydd wedi gallu gwella eu hiechyd ac ansawdd eu bywyd drwy gymryd rhan mewn chwaraeon.                    

"Mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod prosiectau ledled Cymru'n cefnogi pawb i atal afiechydon cronig ac i helpu pobl i wella'n effeithiol o salwch.                  

"Yn Chwaraeon Cymru rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid sy'n rhannu ein huchelgais ni o genedl egnïol - mae dull o weithedu ar y cyd yn hanfodol er mwyn gwella iechyd a lles pawb ledled Cymru ac rydyn ni'n gyffrous bod mentrau fel y Gronfa Iach ac Egnïol yn gyfrwng i ni wneud mwy o waith ar draws sectorau yn y dyfodol." 

Hefyd dywedodd Dr Anna Bryant, Prifysgol Metropolitan Caerdydd:             

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i'r sectorau addysg, iechyd a chwaraeon gydweithio a gwneud gwahaniaeth i lesiant pobl ifanc yng Nghymru. Mae diwygio'r Cwricwlwm ar gyfer Cymru i gynnwys Datblygu Iechyd a Lles fel Maes Dysgu a Phrofiad yn cyd-fynd yn dda â chanfyddiadau'r adroddiad yma.   

"Dyhead y Maes Dysgu a Phrofiad blaenllaw yma ar lefel y byd yw cefnogi datblygiad yr holl blant a phobl ifanc ar eu siwrnai iechyd a lles unigol. Fel proffesiwn, mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc ni'n cael profiadau positif ac ystyrlon, er mwyn datblygu eu cymhelliant, eu hyder, eu medrusrwydd corfforol a'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth i gymryd rhan am oes mewn gweithgarwch corfforol."