Achos cryf chwaraeon dros hapusrwydd yng Nghymru

Gallai chwaraeon fod â'r allwedd i greu cenedl hapusach yng Nghymru yn ôl arolwg. 

Yng Nghymru, mae oedolion sy'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon (tair gwaith neu fwy yr wythnos) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt 'ddigon o egni' neu 'deimlo'n hyderus' yn ôl data *Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol cenedlaethol.  

Yn seiliedig ar ymatebion 10,000 o oedolion yng Nghymru, mae cyswllt arwyddocaol rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon a gwell iechyd corfforol a lles meddyliol, teimlo'n hapus gyda bywyd, llai o bryder, hapusrwydd a phobl yn teimlo'n fodlon gyda'u sefyllfa waith.  

**Mae'r canfyddiadau'n cynnwys y canlynol:

  • Mae oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon '3 gwaith neu fwy yr wythnos'1.8xyn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt 'ddigon o egni' ('yn aml' neu 'drwy'r amser').
  • Mae oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon '3 gwaith neu fwy yr wythnos'1.5xyn fwy tebygol o ddweud eu bod yn 'teimlo'n hapus' ('yn aml' neu 'drwy'r amser').
  • Mae oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon '3 gwaith neu fwy yr wythnos'1.5xyn fwy tebygol o ddweud eu bod yn 'teimlo'n dda amdanynt eu hunain'('yn aml' neu 'drwy'r amser').
  • Mae oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon '3 gwaith neu fwy yr wythnos'1.4xyn fwy tebygol o ddweud eu bod yn 'teimlo'n optimistig'('yn aml' neu 'drwy'r amser').
  • Mae oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon '3 gwaith neu fwy yr wythnos'1.4xyn fwy tebygol o ddweud eu bod yn 'teimlo'n hyderus'('yn aml' neu 'drwy'r amser').

Happiness Day

Yr ystadegau yw'r tro cyntaf i ddata chwaraeon, iechyd cyhoeddus a data cenedlaethol eraill gael eu casglu ochr yn ochr fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru.            

Yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae Cymru ar ôl gweddill y DU yn aml o ran lefelau hapusrwydd.         

Daw'r cyhoeddiad wrth i Gymru gefnogi Diwrnod Hapusrwydd Cymru 2018. Ar y diwrnod bydd sefydliadau o bob cwr o Gymru'n cymryd rhan i wneud newidiadau bach i wneud i'w staff wenu.            

"Mae'r rhai ohonom ni sydd wrth ein bodd â chwaraeon ac yn cymryd rhan yn rheolaidd yn gwybod y gwahaniaeth positif enfawr mae'n ei wneud i'n bywydau ni,"dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru Sarah Powell.

"Dylai pawb yng Nghymru gael cyfle i elwa yn yr un ffordd.Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio nawr ar oresgyn y rhwystrau sy'n atal chwaraeon a hamdden gorfforol ar gyfer y bobl hynny sydd ddim yn elwa eto. Ar ôl i ni ddechrau mynd i'r afael â'r problemau hynny, fe allwn ni ddechrau creu dyfodol iach iawn i Gymru. 

"Dyna pam rydyn ni'n gofyn i bobl Cymru ein helpu ni i ddylanwadu ar chwaraeon yng Nghymru a dweud wrthym ni beth yn union sydd ei angen i gael ein holl gymunedau ni'n fwy egnïol." 

"Rhaid i ni weithio gyda phobl i gael gwared ar y rhwystrau sy'n atal cymryd rhan ac i ddeall yn well rai o'r ffactorau sy'n cymell pobl i gymryd rhan, fel amser, cost a manteision cymdeithasol."

Ymunwch â'r sgwrs ar ddyfodol chwaraeon yng Nghymru yn www.sport.wales/mywelshsport.

Am fwy o ddata am Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol ewch i www.chwaraeon.cymru.

*Mae'r data Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol yn rhan o Arolwg Cenedlaethol newydd Cymru, sy'n cymryd lle Arolwg Iechyd Cymru, yr Arolwg ar y Celfyddydau yng Nghymru, Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru a'r Arolwg ar Oedolion Egnïol.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru'n arolwg wyneb yn wyneb ar fwy na 10,000 o oedolion 16 oed a hŷn sy'n cael eu dewis ar hap. Mae'n cael ei gynnal ledled Cymru.         

**Mae'r ffigurau uchod wedi'u seilio ar ddadansoddiad sy'n cyfrif am amrywiadau mewn lles sy'n gysylltiedig ag oedran, rhyw ac anabledd.