Venus Romaeo a Tracey Skirton Davies
Athletwraig: Venus Romaeo, Aelod o Sgwad Cymru
a Phrydain Fawr, Pencampwraig Grŵp Oedran Prydain
Hyfforddwraig: Tracey Skirton-Davies, Gymnasteg
Cenedlaethol Cymru Wedi'i Chymhwyso gan y PORh
Hyfforddwr o 2005 hyd heddiw

Gobaith a breuddwyd Venus yw ennill medal yn y
Gemau Olympaidd: 'Bydd gan Tracey ran allweddol i'w chwarae yn
hynny. Mae'n hyfforddwraig garedig iawn ond bydd yn fy ngweithio'n
galed. Rwy'n gweld mwy arni na fy mam weithiau!'
Fel cyn-gymnast a hyfforddwraig wirfoddol, mae Tracey yn
meddwl bod gwirfoddolwyr yn allweddol i chwaraeon: 'Wrth gwrs,
rydym yn cymryd hufen y dalent [yn yr Academi] ond ni fyddai rhai
o'r ieuenctid eraill yn dal ati oni bai am wirfoddolwyr yn gweithio
mewn clybiau a chanolfannau chwaraeon lleol. Maent yn rhoi blas ar
gymnasteg i blant.'
Am ragor o wybodaeth am y bartneriaeth wych rhwng Tracey a
Venus, gwyliwch eu cyfweliad.