Polisi hyfforddi
Ceir nifer o bolisïau allweddol y mae'n rhaid eu hystyried wrth
gymryd rhan mewn hyfforddi.
Y Safon Gydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon
Mae'r Safon Gydraddoldeb ar gyfer Chwaraeon yn fframwaith ar
gyfer cynorthwyo sefydliadau chwaraeon i ehangu mynediad a lleihau
anghydraddoldeb mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith
unigolion, grwpiau a chymunedau a dangynrychiolir, yn enwedig
merched a genethod, grwpiau o leiafrifoedd ethnig a phobl
anabl.
Mae'n seiliedig ar ddwy thema eang: datblygu eich sefydliad a
datblygu eich gwasanaethau. Mae'r safon yn datgan continiwm o
ofynion mewn pedair lefel cyflawniad.
Ewch i wefan y Safon Gydraddoldeb: www.equalitystandard.org
Ers mis Gorffennaf 2010, mae 'Lefel Sylfaen' wedi'i
hintegreiddio ym mhroses hunansicrwydd Sport England. Efallai y
bydd hyn yn golygu rhai gofynion i CRhC Cymru.
Cefnogaeth Chwaraeon Cymru
Rydym yn darparu'r gefnogaeth a ganlyn i CRhC yng Nghymru:
- Gweithdy ymwybyddiaeth o'r Safon Gydraddoldeb i ddechrau.
- Cyfarfodydd chwarterol â CRhC eraill sy'n gweithio at yr un
lefel.
- Cyfarfodydd un i un.
- Cyngor a chefnogaeth gan Strwythurau Chwaraeon drwy e-bost a
dros y ffôn.
- Templadau a chelfi.
- Cymorth wrth gyflwyno ar gyfer asesiad.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â: support@sportwales.org.uk.
Mae'r niferoedd yn gyfyngedig felly cânt eu dyfarnu ar sail y
cyntaf i'r felin.
Diogelu ac Amddiffyn Plant Mewn Chwaraeon
Er bod y rhan fwyaf o blant yn elwa o gymryd rhan mewn
chwaraeon, mae rhai pobl ieuainc wedi profi cam-drin a/ neu
arferion gwael yn gysylltiedig â'u cyfranogiad. Hefyd, gall rhai
plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon fod yn profi cam-drin heb
gysylltiad â'r gamp, naill ai gartref neu yn y gymuned yn
ehangach.
Mae hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a swyddogion mewn sefyllfa
freintiedig gyda chyfle i feithrin perthnasoedd da â phobl ieuainc
yn eu gofal ac felly maent mewn sefyllfa ddelfrydol i adnabod
arwyddion o blentyn yn cael ei gam-drin.
Gellir sicrhau hyn drwy fod yn effro i beryglon unigolion sy'n
cam-drin, neu a all gam-drin, i blant a bod yn ymwybodol o unrhyw
arwyddion bod plentyn yn dioddef o gam-drin, ac ymateb iddynt.
Dylai'r Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) gydnabod pa mor bwysig
yw sicrhau bod gweithdrefnau yn eu lle'n amlinellu'r camau priodol
i'w cymryd os ceir unrhyw bryder. Hefyd, mae'n hanfodol sicrhau bod
polisïau cynhwysfawr a chyfarwyddyd ymarferol ar gael, yn hybu lles
plant ac yn lleihau unrhyw risg bosibl mewn amgylcheddau
chwaraeon.
Lansiodd yr Uned Amddiffyn Plant Mewn Chwaraeon, ar y cyd â
Chwaraeon Cymru, 'Y Fframwaith' yn 2009. Mae 'Y Fframwaith' yn
darparu i Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol yng Nghymru ganllaw
cyffredinol ar gyfer diogelu plant mewn a thrwy chwaraeon, ac mae'n
cynnwys:
- Cefnogi Safonau: (Please can this take you to a separate
Cefnogi section)
- Monitro gwerthusiadau: (please can this take you to the model
of evaluation as attached)
Mae'r fframwaith yn datgan pump o ofynion safonol y dylai
sefydliadau fod wedi'u sefydlu er mwyn gweithredu'n ddiogel.
- Polisi
- Gweithdrefnau
- Arferion
- Addysg a Hyfforddiant
- Gweithredu a Monitro
Dylai sefydliadau fod â chynllun gweithredu cyfredol, yn dangos
amcanion a nodau clir, sut i weithredu, y cyfrifoldeb, yr amserlen
a'r cynnydd.
Addysg a Hyfforddiant i Swyddogion Amddiffyn Plant
Arweiniol CRhC
Mae disgwyl i Swyddogion Arweiniol fynychu'r cyrsiau hyfforddi a
ganlyn:
- Diogelu ac Amddiffyn Plant Mewn Chwaraeon SCUK
- Amser i Wrando'r NSPCC
- Asesiad Risg yr NSPCC
Hefyd, trefnir cyfarfodydd y swyddogion arweiniol gan Chwaraeon
Cymru a CPSU yn rheolaidd. Gweler y calendr o gyfarfodydd a
hyfforddiant
Recriwtio diogel
Mae'n bwysig edrych ar brosesau'r sefydliad mewn perthynas â
recriwtio a defnyddio staff cyflogedig a gwirfoddolwyr yn ddiogel.
Dylai hyn gynnwys cynnal asesiadau risg a datgeliadau'r Swyddfa
Cofnodion Troseddol, cyfrifoldeb am benderfyniadau recriwtio, ac
ati.
Ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn adolygu sgôp a
gweithrediadau Cynllun Dilysu a Gwahardd (CDG) yr Awdurdod Diogelu
Annibynnol (ADA), sy'n ceisio atal pobl anaddas (cyflogedig neu
wirfoddolwyr) rhag gweithio gyda plant neu oedolion bregus. Bydd
CRhC yn derbyn gwybodaeth am y cynllun wedi adolygiad y
Llywodraeth.
Diweddariad CPSU ar ADA a CDG.
Eisiau gwybod mwy am unrhyw un o'r polisïau hyn?
Chwaraeon Cymru: Emma Tobutt: Uwch-Swyddog Diogelu a
Chydraddoldeb:
emma.tobutt@chwaraeoncymru.org.uk
neu Mari-wyn Elias-jones: Uwch-Swyddog CRhC: mari-wyn.elias-Jones@chwaraeoncymru.org.uk
Neu gallwch gysylltu â'r Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon
(CPSU): Karen Workman yn yr Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon
(CPSU) am gefnogaeth mewn perthynas ag achosion: Karen.workman@nspcc.org.uk
Fel dewis arall, gallwch gysylltu â'r NSPCC ar 0808 800
5000 neu ChildLine ar 0800 1111