Gwirfoddoli
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu pawb i gymryd rhan mewn
chwaraeon. Ac wrth gwrs, pan rydym ni'n dweud gwirfoddolwyr, gall
hyn fod yn unrhyw beth o hyfforddwyr, pob sy'n fodlon golchi cit,
pobl all dorri gwair a hyd yn oed pobl sy'n gallu torri orennau'n
sleisys.
Ein dyheadau
Mae ein Strategaeth
Hyfforddi 2010-2016 yn datgan targedau uchelgeisiol iawn i ni,
sef cael 10% o boblogaeth Cymru i fynd ati i hyfforddi a
gwirfoddoli mewn chwaraeon. Yn seiliedig ar y boblogaeth bresennol,
mae hynny'n gynnydd o 113,000 i 240,000.
Felly pam na chymerwch chi ran?
Cyn i chi feddwl nad oes gennych chi amser i helpu a
gwirfoddoli, meddyliwch eto. Efallai mai dim ond am awr neu ddwy yr
wythnos sydd rhaid i chi wirfoddoli, beth bynnag sy'n gweddu i chi.
Ac mae gwirfoddoli'n rhoi llawer iawn o foddhad ac yn gyfle i chi
roi rhywbeth yn ôl i'ch
cymuned.
Ond pam arall ddylech chi wirfoddoli?
- Cydnabod eich ymrwymiad i helpu eich cymuned
- Cyfle i wneud gwahaniaeth
- Ennill profiad gwaith i'w ychwanegu at eich CV
- Cyfle i ennill cymwysterau ychwanegol fel bathodynnan
hyfforddi
- Cyfleoedd hyfforddi a
datblygu
Peidiwch â dim ond cymryd ein gair ni!
Mae pobl ar hyd a lled Cymru'n gwneud gwahaniaeth i chwaraeon yn
eu cymuned. Cewch ragor o wybodaeth yma am sut mae Betty
Gray, sy'n 90 oed, wedi rhoi mwy na 50 mlynedd i'r byd tenis
bwrdd yn Abertawe.
Mae gennym ni rai fideos hefyd a gallwch ddod o hyd iddynt wrth
lywio ar ochr dde'r dudalen hon, felly cymerwch gip arnynt.
Ysbrydoledig iawn
ynte!
Felly am beth rydych chi'n disgwyl?
Felly os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Betty neu
os oes gennych chi awydd rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned,
cofrestrwch heddiw gan ddefnyddio ffurflen gofrestru ar-lein 'Tu Ôl i Bob
Seren'.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ymuno â'n tîm ni.