Clwb Athletau Blaenau Gwent
Doedd Clwb Athletau Blaenau Gwent ddim yn bodoli ddwy flynedd yn
ôl hyd yn oed. 
Os oedd y bobl leol eisiau mynychu cyfleusterau athletau, roedd
rhaid iddyn nhw deithio mwy nag 20 milltir. Ar ôl gwneud cais am
grant gan Chwaraeon Cymru i brynu offer, mae gan y clwb bellach fwy
na 100 o bobl rhwng 7 ac 16 oed sy'n ymarfer bob wythnos.
Mae'r clwb yn cystadlu mewn twrnamentau ledled Cymru ac mae'n
gallu brolio bod mab a merch y cyn-chwaraewr rygbi dros Gymru,
Eddie Butler, yn
aelodau.
Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am y clwb athletau,
gallwch fynd i'w wefan.
Os ydych chi'n meddwl y gallai grant gan Chwaraeon Cymru wneud
gwahaniaeth i'ch cymuned chi, yna beth am wneud cais am un heddiw.