Grantiau Datblygu
Ydych chi eisiau sefydlu tîm newydd,
datblygu cyfleusterau ymarfer newydd neu brynu offer y mae ei wir
angen er mwyn symud eich prosiect ymlaen i'r lefel
nesaf?
Os felly, mae grant sydd rhwng £1,501 a £25,000 ar gael i dalu
am yr holl brosiectau uchod, yn ogystal â'r canlynol:
- Addysg i hyfforddwyr
- Llifoleuadau at ddibenion hyfforddi
- Prynu tir neu hawliau ar dir er mwyn datblygu mannau
gweithgarwch
- Grantiau sefydlu i gefnogi mentrau newydd
Pwy all wneud cais?
Mae'r grant hwn ar gael i unrhyw grŵp sydd â chyfrif (Banc,
Cymdeithas Adeiladu neu Undeb Credyd) yn enw ei sefydliad.
Pwy na all wneud cais?
Yn anffodus, os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd, yn ysgol gynradd
neu'n gorff cysylltiedig sy'n trefnu gweithgareddau i blant, neu'n
ysgol uwchradd sy'n rhan o'r cynllun 5x60, nid ydych yn gymwys i
wneud cais am Grant Datblygu.
Hefyd, ni ellir cyllido'r gweithgareddau a ganlyn:
- Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau
amgylcheddol, dawns perfformiad neu sgiliau syrcas
- Gweithgareddau / prosiectau sy'n bodoli eisoes ac sydd wedi
dechrau
- Prosiectau y credir eu bod yn rhan o gostau rhedeg o ddydd i
ddydd arferol sefydliad
- Prosiectau wedi'u lleoli y tu allan i Gymru
Neu'r elfennau a ganlyn mewn prosiectau:
- Cynnal a chadw, atgyweirio neu newid offer neu gyfleusterau
presennol (er hynny, rhoddir ystyriaeth i newid offer nad yw'n
cydymffurfio bellach â'r ddeddfwriaeth bresennol)
- Prynu eitemau personol o offer
- Arlwyo a lletygarwch
- Medalau, tystysgrifau a thlysau
- Tripiau cartref neu dramor
- Achlysuron unigryw heb unrhyw gysylltiad â gweithgareddau
parhaus
- Aelodaeth
Sut mae ymgeisio
Os yw'r grant hwn yn swnio'n berffaith ar gyfer eich prosiect
chi, beth am ymgeisio ar-lein drwy glicio ar y botwm "Ymgeisio
Ar-lein" ar y dde. Bydd hwn yn rhoi mynediad i chi i Borthol
Grantiau Chwaraeon Cymru ac yno cewch lenwi ffurflen Grant Datblygu
ar-lein.
Wrth fynd drwy'r ffurflen gais, os bydd arnoch angen rhagor o
wybodaeth neu arweiniad am adran neu gwestiwn, cliciwch ar y marc
cwestiwn glas agosaf ac fe welwch ragor o
wybodaeth.
Wrth gwblhau eich cais, cofiwch sicrhau eich bod yn atodi'r holl
ddogfennau y gofynnir amdanynt, yn enwedig y dystiolaeth o gyfrif
eich sefydliad (cyfrif Banc, Cymdeithas Adeiladu neu Undeb Credyd),
fel nad oes oedi gyda phrosesu eich cais.
Ar ôl cyflwyno eich ffurflen gais, byddwch yn cael gwybodaeth
gyson ar e-bost wrth iddi symud o gam i gam drwy'r broses
ddyfarnu.
Cyn gwneud cais, darllenwch y 3 dogfen "Help" ar ffurf PDF ar y
dde. Byddant yn rhoi syniad i chi o'r wybodaeth sydd ei hangen a
hefyd yn esbonio sut mae ymgeisio am grant gan ddefnyddio Porthol
Grantiau Chwaraeon Cymru.
Rydyn ni wedi datblygu amrywiaeth o fideos 'Sut i' dwyieithog i'ch helpu chi
drwy'r broses ymgeisio. Mae'r rhain ar gael ar sianel YouTube
Chwaraeon Cymru. Os ydych chi'n dal i gael anhawster ar ôl gwylio'r
fideos yma, cofiwch gysylltu â ni.
Yn olaf, i weld a yw eich porwr rhyngrwyd presennol yn un
priodol a'ch bod yn gallu defnyddio ein system Ymgeisio am Grantiau
ar-lein, cliciwch
yma i weld a yw eich porwr yn addas.
Rhagor o help
Os nad ydych yn sicr a yw Grant Datblygu ar eich cyfer chi, neu
os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich prosiect, cysylltwch â
Thîm Grantiau Chwaraeon Cymru yn uniongyrchol ar 0300 300
3130 a byddant yn barod iawn i helpu.
Fel dewis arall, cysylltwch â'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol am
gyngor a chefnogaeth ynghylch sut i lenwi'r ffurflen gais. Ceir
manylion cysylltu ar gyfer pob Cyngor Gwirfoddol Sirol yma.
NB: Sylwer bod Chwaraeon Cymru yn ddosbarthwr cyllid y Loteri
Genedlaethol.