Yn 2010, wedi gweithredu am 50 mlynedd, roedd dyfodol y Clwb
Bocsio Amatur dan fygythiad. Roedd cynigion prydles newydd ar gyfer
hen adeiladau'r Clwb yn golygu bod rhaid i'r bocswyr symud o'u
campfa.
Dywedodd un o Ymddiriedolwyr y Clwb, Tim Ballam:
"Roedd ein prydles ni ar yr eiddo'n dod i ben ac roedd rhaid i
ni ddod o hyd i rywle arall i ymarfer. Roedd hyn yn profi'n eithaf
anodd ac yn peri pryder mawr. Roedden ni wedi llwyddo i gadw'n
costau'n isel iawn yn y gorffennol ac roedd hynny'n grêt er mwyn
gwneud y clwb yn hygyrch i'r cymunedau lleol. Ond roedd eiddo
newydd yn golygu costau uwch.
"Hefyd roedden ni eisiau gwella'r cyfleuster a'r offer roedden
ni'n gallu eu cynnig i'n bocswyr, ond mewn sawl eiddo, doedd y
seilwaith jysd ddim yno i ni. Byddai pob opsiwn yn gwneud i ni
gyfaddawdu mewn ffyrdd cwbl annerbyniol."
Yn yr un dref, roedd yr amgueddfa gymunedol wedi cael mwy na'i
siâr o anlwc. Roedd tân wedi llosgi adeilad yr amgueddfa i'r llawr.
Fel sefydliad cymunedol, roedd yr amgueddfa wedi cael cefnogaeth i
adeiladu cyfleuster newydd pwrpasol.
Yn ffodus, roedd Clwb Bocsio Amatur Dinbych yn cael ei ystyried
fel sefydliad cymunedol hefyd a daeth tro ar fyd i etifeddiaeth a
lwc y clwb. Cynigiodd yr Amgueddfa gyfle i Ymddiriedolwyr y Clwb
gael cyfleuster wedi'i adeiladu i bwrpas yn rhan o adeilad newydd
yr amgueddfa.
Dywedodd Tim:
"Roedd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa'n cydymdeimlo â'r clwb. Rydyn
ni wedi bod yn fenter gymunedol erioed; roedd rhai wedi bod yn rhan
o hanes y clwb am flynyddoedd lawer ac yn awyddus i'w gadw'n fyw.
Daeth y symud â'r clwb yn rhan o arddangosfeydd yr amgueddfa hefyd,
gan neilltuo llefydd penodol i gofroddion chwaraeon o'r
1950'au."
Gyda grantiau'r Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru a
chyllid gan Gyngor Sir Ddinbych, yn fuan iawn roedd gan
Glwb Bocsio Amatur Dinbych gyfleusterau newydd sbon. Ac mae'r rhain
yn gyfleusterau sy'n denu mwy o bobl leol nag erioed o'r blaen i
ymwneud â'r clwb ac maent yn cefnogi bocswyr ifanc i symud yn eu
blaen drwy'r rhengoedd i frig y llwybr chwaraeon.
Ychwanegodd Tim:
"Mae pethau'n ffantastig; mae'r gampfa newydd yn wych a dweud y
gwir, ac yn llawn! Mae gennym ni aelodau o bob oedran, o saith i
50+, yn fechgyn a genethod, dynion a merched. Rydyn ni wedi llwyddo
i lynu wrth ein hegwyddorion, gan gadw'r clwb fel menter gymunedol
a sicrhau ein bod yn gallu darparu ar gyfer y galw lleol. Mae'n
gweithio yn ôl pob tebyg.
"Hefyd rydyn ni wedi gallu ffurfio cyswllt â chlybiau lleol
eraill, gan roi cyfle i'n bocswyr gorau ni, a'r rhai mwyaf addawol,
ymarfer yn erbyn eraill ar yr un lefel. Mae wir yn cefnogi eu
datblygiad."
Pan oedd wir ei hangen, camodd y gymuned leol i'r adwy i
gefnogi'r clwb bocsio yma. Digwyddodd hyn am fod y clwb wedi cadw
buddiannau'r gymuned leol yn rhan ganolog o'r hyn roedd yn ceisio'i
gyflawni. Isod mae Tim yn amlinellu'r egwyddorion sy'n cynnal Clwb
Bocsio Amatur Dinbych fel sefydliad lleol, gan ddweud sut mae hyn
yn ei helpu i fynd o nerth i nerth.
Mynediad ac nid Elw
Mae CBA Dinbych wedi tarddu o ardal lai cyfoethog. Roedd cost a
chadw'r gweithgareddau'n fforddiadwy i'r gymuned gyfan yn
flaenoriaeth i'r clwb erioed.
Mae rhannu cyfleuster a sicrhau cefnogaeth ariannol gan gyrff
fel y cyngor lleol a Chwaraeon Cymru'n golygu bod y clwb yn gallu
cadw'n driw i'r egwyddor hon.
Opsiynau i Bawb
Mae gan y clwb aelodaeth eithriadol amrywiol ac mae'n mynd ati i
weithio gyda grwpiau amrywiol yn y gymuned leol, gan arwain at dwf
cyffredinol yn yr aelodaeth.
Esbonia Tim:
"Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddarparu opsiynau cynnydd i'n
hieuenctid addawol ni, ond hefyd yn cydnabod nad yw pawb eisiau
ymladd yn gystadleuol. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r rhai sy'n dod yma
am hwyl ac i gadw'n heini yn fawr iawn hefyd ac mae ein sesiynau'n
adlewyrchu hyn. Rydyn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n addasu'r
ddarpariaeth i gyfateb y galw.
"Hefyd rydyn ni'n gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer grwpiau
penodol, fel merched a genethod, ac rydyn ni wedi ffurfio cyswllt
ag ysgol leol i gefnogi hyn ac yn cynnig sesiynau penodol i
'ferched yn unig' yn awr."
Sefydlu Partneriaid
Mae'r clwb wedi dod yn bartner i sawl sefydliad gwahanol; o'r
amgueddfa i'r cyngor lleol a chlybiau bocsio eraill. Doedd rhai
ddim yn ddisgwyliedig ond maen nhw wedi chwarae rhan gwbl hanfodol
mewn cefnogi datblygiad y clwb a'i gadw'n rhan ganolog o'r gymuned
leol.
Darparu Cyfleoedd
Hyd yn oed cyn i'r clwb gael ei gyfleusterau newydd o safon uchel,
roedd yn cefnogi ei focswyr mwyaf addawol drwy ffurfio
partneriaethau â chlybiau lleol eraill. Roedd darparu cyfleoedd i
helpu ieuenctid addawol yn parhau'n flaenoriaeth. Nawr mae
sgiliau'r hyfforddwyr hwythau wedi'u mireinio er mwyn cefnogi'r
ieuenctid yma, ac mae'r bocswyr i gyd wedi cofrestru ar gyfer
cystadlaethau. Er hynny, mae'r clwb yn dal i ddefnyddio
partneriaethau i gefnogi cystadleuwyr i ddatblygu a pherffeithio eu
sgiliau.
Grantiau Chwaraeon Cymru i lansio ceisiadau ar-lein
Mae'r ffordd rydych chi'n ymgeisio am gyllid Chwaraeon Cymru yn
newid. O'r 26ain Hydref bydd posib i chi gofrestru i gael
mynediad i borthol Grantiau Chwaraeon Cymru ble cewch ymgeisio
ar-lein am grantiau'r Gist Gymunedol, Elite Cymru, Grantiau
Datblygu a Chyrff Rheoli Cenedlaethol (llai na £50k). Mae'r broses
yn gyflym a rhwydd a bydd eich cais ar-lein yn cael ei gyflwyno'n
uniongyrchol i Chwaraeon Cymru, gan leihau'r amser rhwng y cais a'r
cyllid.
Ni dderbynnir ceisiadau papur ar ôl y 26ain Hydref, dim ond o
dan amgylchiadau arbennig iawn.