Sefydlwyd Diva Sport yn wreiddiol gan ddwy fam sengl, a oedd yn
benderfynol o gadw'n heini yng nghanol holl gyfrifoldebau eraill eu
bywydau. Mae'r fenter ffitrwydd sydd â'i ffocws ar ferched ac sy'n
groesawus i deuluoedd yn agor ei drysau bob mis i gannoedd o
ferched sydd eisiau ymuno â dosbarthiadau
ffitrwydd.
Drwy fabwysiadu eu dull unigryw eu hunain o gynnig dosbarthiadau
cadw'n heini i ferched, aeth y sylfaenwyr, Claire Williams a Mel
Gill, ati i feddwl am ddarpariaeth gwbl wreiddiol, gan gynnig pob
math o bethau, o ymarfer gyda chylchoedd hwla i ddawnsio bwrlésg,
gan sicrhau bod y gweithgareddau'n addas i deuluoedd ac i blant, ac
annog partïon plu i gynnwys dosbarth ymarfer neu ddau yn eu
cynlluniau hyd yn oed!
Un ffocws sydd gan y ddwy o ran gweithredu eu busnes - cadw
pethau'n hwyliog. A thybed beth yw ffynhonnell y fformiwla
lwyddiannus hon? Dim ond gwrando ar eu cwsmeriaid a'u
deall.
Dywedodd un o'r sylfaenwyr, Mel Gill:
"Fe wnaethon ni sefydlu Diva Sport am ein bod ni eisiau cynnig
rhywle i ferched fel ni ddod gyda'u plant os oedd raid i gymryd
rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd mewn awyrgylch oedd yn teimlo'n
braf ac yn gyfforddus iddyn nhw.
"Roedden ni eisiau cynnig rhywbeth i bob siâp, maint ac oedran,
i ferched sy'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon ac i'r rhai
sydd heb wneud unrhyw beth ers gadael yr ysgol."
Ychwanegodd ei phartner busnes, Claire Williams, sydd wedi colli
bron i 5 stôn mewn pwysau ac wedi dod oddi ar gyffuriau atal
iselder drwy gymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau
hamdden:
"Roedden ni'n deall yr holl bryderon y gallai'r merched fod yn
eu teimlo wrth feddwl am ymuno â dosbarthiadau ffitrwydd; roedden
ni'n eu teimlo nhw hefyd. Felly fe wnaethon ni wrando ar yr hyn
roedd y merched ei eisiau ac rydyn ni wedi gadael iddyn nhw
ddylanwadu ar y ddarpariaeth ers i ni lansio Diva Sport.
"Mae'n bur debyg mai un o ffactorau allweddol Diva Sport yw bod
popeth rydyn ni'n ei wneud ac yn ei gynnig yn cael ei wneud am hwyl
bob amser. Ac mae'r person sy'n cyflwyno'r dosbarth yr un mor
bwysig â chynnig y dosbarthiadau a'r offer mae'r merched eisiau ei
ddefnyddio. Mae ein tîm ni'n wych ac yn gwneud yn siŵr bod pob
merch sy'n dod yma'n cael amser da."
Gan fod y niferoedd wedi cynyddu'n aruthrol ers ei sefydlu yn
2011 - gyda chymorth Grant y Gist Gymunedol gan Chwaraeon Cymru -
mae'r ddwy sydd wrth y llyw wedi agor canolfan gymunedol bwrpasol
erbyn hyn, ar gyfer eu rhestr hirfaith o gleientiaid, a chafwyd
sylw mawr i hyn ar y cyfryngau ledled y wlad, a oedd yn hoff iawn
o'r dull hwyliog o weithredu.
Hefyd, mae ffocws Diva ar y cwsmer wedi sicrhau ei fod yn rhan
annatod bellach o gymuned De Cymru, gan gynnig cyfleoedd ledled
Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Blaenau Gwent. Mae hefyd
wedi ffurfio partneriaethau â chlybiau cymunedol lleol ac ysgolion,
i gynnig dull unigryw Diva o ddarparu cyfleoedd ffitrwydd i'r rhai
na fyddent byth yn mynd i mewn i gampfa, ac i ferched ifanc, gan
sicrhau ei fod yn cynnig rhywbeth i bob
merch.
Gan gynnal eu dull llwyddiannus a hyblyg o weithredu, mae gan
Claire a Mel nod yn awr o gyrraedd pob merch yng Nghymru; eu
huchelgais yw ehangu dull Diva o weithredu i gynnwys ardaloedd
eraill ar hyd a lled y wlad.
Mynd i'r afael â'r bwlch mewn cymryd rhan gan efelychu Diva
...
Dyma sylfaenwyr Diva Sport, Mel Gill a Claire Williams, i gynnig
cyngor ar gyfer annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn
gweithgareddau chwaraeon a hamdden.
Digon o hwyl
Mae deuawd Diva Sport yn dweud mai cael hwyl sydd fwyaf
blaenllaw ym mhopeth maent yn ei gynnig, boed yn ddosbarth Swmba,
pêl tegell, bokwa neu gyffro'r cylchoedd. Mae'r pwyslais bob amser
ar sicrhau bod pob un merch sy'n bresennol yn mwynhau ei
hun.
Edrych ar bethau'n wahanol
Hefyd, mae Diva Sport yn ymfalchïo mewn meddwl mewn ffordd
wahanol, gan gynnig opsiynau unigryw fel dawnsio Bwrlésg a
dosbarthiadau Sglefrolio, sy'n anelu i gyd at gael merched i fod yn
egnïol mewn ffordd hwyliog.
Bod yn Hyblyg
Mae sylfaenwyr Diva, Claire a Mel, yn hyderus bod eu dull hyblyg
o weithredu, gan seilio eu penderfyniadau ar adborth a galw'r
cwsmeriaid yn bennaf, wedi bod yn ffactor allweddol arall yn eu
llwyddiant. Mae'r ddwy'n cydnabod bod dim ond gwrando ar yr hyn
mae'r merched ei eisiau wedi dylanwadu i raddau helaeth iawn ar eu
dull o weithredu.
Canfod Partner
Ysgolion, Street Games, Awdurdodau Lleol - mae Diva Sport
wedi dod yn bartner i lawer o sefydliadau amrywiol, gan chwilio am
ddulliau o weithredu ar y cyd er mwyn cyrraedd grwpiau amrywiol o
ferched. Cawsant gyllid gan Chwaraeon Cymru i helpu gyda'u costau
sefydlu ar y dechrau.