Ffitrwydd i bawb yn symbylu poblogaeth ynys i symud

Chwaraeon:

Chwaraeon

Lleoliad:

Gogledd Cymru

Pan mae canran sylweddol o boblogaeth eich ynys yn cofrestru'n aelodau o'ch
campfa, mae'n rhaid eich bod yn gwneud rhywbeth yn iawn.

Pan mae'r gampfa wedi'i lleoli mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf lle ceir llawer o gyni, mae'n rhoi mwy o hygrededd fyth i'r cynnydd fis ar ôl mis yn nifer y bobl sy'n cerdded i mewn drwy'r drysau i ymarfer.     

Ac mae hynny ganmil gwell pan mai canolfan codi pwysau yw'r gampfa, o feddwl am yr her sy'n gysylltiedig â'r stereoteip negyddol o ddynion cyhyrog yn codi pwysau mawr.

Gyda mwy nag 800 o aelodau, a chyfleoedd allgymorth ychwanegol yn y gymuned, mae Canolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn yn orlawn o ddydd i ddydd gyda phobl yn defnyddio ei chyfleusterau.               

Ers ailagor ym mis Ebrill 2011, wedi gwaith adnewyddu ar gost o £300,000, mae'r Ganolfan yn gartref i athletwyr elitaidd sy'n hyfforddi ochr yn ochr ag aelodau'r cyhoedd sydd eisiau ymarfer, colli pwysau a chadw'n heini.    

HAWFC Graph

Yn ddiweddar, maent wedi darparu cyfleoedd allgymorth ar gyfer cymunedau y tu allan i ardal Caergybi hefyd, i bobl allu dod yn fwy heini ac iach drwy Ffitrwydd Swyddogaethol. Gyda'u fan eu hunain i gario'r offer, mae'r math yma o ffitrwydd yn cynnwys hyfforddi'r corff ar gyfer y gweithgareddau sy'n cael eu gwneud mewn bywyd bob dydd.

Dywedodd cyn-enillydd medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad, Ray Williams, sy'n bennaeth yn y ganolfan:  

"Rydyn ni'n chwalu'r myth sydd gan lawer o ferched am hyfforddiant ymwrthedd yn creu cyhyrau mawr ac yn eu haddysgu nhw am y ffaith bod hynny'n help i siapio'r corff a cholli pwysau.

"Rydw i'n amrywio'r rhan fwyaf o'r sesiynau ac yn cynnwys pob elfen o ffitrwydd ynddyn nhw. Mae'r bobl sy'n dod iddyn nhw'n gadael yn teimlo eu bod nhw wedi cwblhau awr o ymdrechu caled."

Roedd y ganolfan yn targedu tref Caergybi a'i chymunedau lleol i ddechrau ond nawr mae wedi datblygu i gynnig cyfleoedd ymhellach i ffwrdd, yn y cymunedau mwy gwledig ar draws Ynys Môn.

Mae'r athroniaeth yn syml - ffitrwydd fforddiadwy i bawb.

Ar ôl gwaith adnewyddu helaeth, cafodd y Ganolfan bresennol ei hailagor ym mis Ebrill 2011 a chafodd gefnogaeth gan grant datblygu gwerth £25k gan Chwaraeon Cymru. Ers hynny, mae'r clwb wedi cael cefnogaeth drwy ddau grant y Gist Gymunedol i brynu'r offer angenrheidiol i ddarparu ar gyfer y cynnydd mewn merched a genethod sy'n aelodau, ac i gynyddu'r amrywiaeth o ymarferion sy'n cael eu cyflwyno. Maent wedi cael cefnogaeth ariannol bellach drwy gyllid ychwanegol mewn partneriaeth ag Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Ynys Môn, i ddatblygu'r rhaglen Ffitrwydd Swyddogaethol.                     

Mae'r partneriaid wedi cynnwys Prifysgol Bangor, Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Ynys Môn, Menter Môn a Môn a Menai, yn ogystal ag ysgolion a chymunedau lleol.

Gan fynd ati i ddatblygu ymhellach, recriwtiodd y ganolfan bobl leol drwy gynllun Twf Swyddi Cymru, sydd wedi eu helpu i symud ymlaen i gyflogaeth tymor hir a chyfleoedd addysg pellach.            

O ran perfformiad, mae'r Ganolfan wedi cynhyrchu dau Bencampwr Prydeinig yn ddiweddar - Gwilym Siôn Pari a Sam Henderson - a bydd y ddau'n mynychu gwersyll grŵp oedran elitaidd Prydain yn Loughborough ddechrau 2014. Hefyd, mae Steph Owens a'r Olympiad Gareth Evans wedi cyrraedd safon gymhwyso Gemau'r Gymanwlad eisoes.          

Mae'r ganolfan wedi cael ymweliadau gan lawer o ffigyrau cyhoeddus blaenllaw Cymru hefyd, gan gynnwys y Prif Weinidog, a oedd yn frwd ei ganmoliaeth i'r fenter. 

Hefyd, bydd y Ganolfan i'w gweld ar raglen deledu ar ITV fis Mai, gyda photensial am 5 miliwn o wylwyr.

Ychwanegodd Williams:

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n chwilio am gyllid i ymestyn y cyfleuster i ddarparu ystafell ffisiotherapi ac adfer a gofod llawr ychwanegol
i'n haelodau ni.        

"Ein gweledigaeth ni ydi agor canolfan arall ar Ynys Môn o fewn tair blynedd oherwydd rydyn ni'n credu'n gryf bod mynd â ffitrwydd i'r gymuned yn fodel cyflwyno arloesol heb unrhyw gost i'r awdurdod lleol. Ar yr un pryd, mae'n gweithredu cymaint o'r polisïau cynhwysiant cymdeithasol sy'n gwneud yn siŵr bod y boblogaeth yn cael darpariaeth ffitrwydd.

"Ein nod ni o ran perfformiad y busnes yn y dyfodol ydi darparu lle i'n perfformwyr gorau ni - gan roi pob cyfle iddyn nhw gystadlu ar y lefel uchaf un.


"Rydyn ni'n rhannu Gweledigaeth Chwaraeon Cymru y dylai pawb yng Nghymru fod wedi gwirioni ar chwaraeon am oes ac rydyn ni'n credu bod y Ganolfan yma'n cael effaith fawr ar lefel feicro. Ein nod ni yw peidio ag aros yn llonydd, ond datblygu ac ehangu a lledaenu'r neges gadarnhaol."

Cynnwys cysylltiedig

Cyllid

Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect a fyddai'n gallu helpu grwpiau tebyg, edrychwch ar ein tudalennau cyllido i weld sut gallwn ni helpu.

Tudalennau cyllido

Sidebar-WhatMovesYou

'Sut Mae'ch Symud Chi?' - ymgyrch gyda nod; nod i'ch cael chi, ferched Cymru, i estyn am eich esgidiau ymarfer a syrthio mewn cariad gyda chwaraeon.

Sut Mae'ch Symud Chi?