175 o flynyddoedd ers ei ffurfio, gwnaeth Clwb Criced Casnewydd
addewid i greu cyfleoedd go iawn i ferched yn y clwb. 5 mlynedd yn
ddiweddarach bron, mae'r etifeddiaeth hon wedi arwain at chwaraewyr
yn ennill capiau cenedlaethol, cyflwyno tlysau yn Lords a thimau o
ferched ysgol brwd sydd wedi gwirioni ar
griced.
Y gyfrinach y tu ôl i lwyddiant y clwb yw 'amgylchedd seiliedig
ar barch ac ymddiriedaeth' yn ôl y Prif Hyfforddwr, Mike Knight,
sydd, gyda chymorth ei efaill, Dave, wedi gosod nod personol iddo'i
hun o roi cyfle i ferched a genethod Casnewydd wirioni ar ei hoff
gamp.
Yn ôl yn 2009, teimlwyd bod pen blwydd Clwb Criced Casnewydd yn
175 oed yn gyfle delfrydol i lansio etifeddiaeth yn anelu at gynnig
cyfleoedd i ferched yn y clwb, gyda chefnogaeth Grant Datblygu gan
Chwaraeon Cymru. Cyn hynny, roedd y clwb wedi gwylio nifer bychan o
enethod yn chwarae ochr yn ochr â'r bechgyn ar lefel iau, cyn
gorfod rhoi'r gorau i'r gamp wrth iddynt droi'n un ar bymtheg oed,
gan nad oedd gan y clwb dîm merched
hŷn.
"Roedden ni'n teimlo'n euog; doedd unman i'n merched ni fynd
wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Ni oedd un o'r clybiau mwyaf yn y
rhanbarth ac roedden ni'n gwybod bod rhaid i ni arwain drwy
esiampl. Felly, roedd ein pen blwydd ni'n gyfle gwych i sefydlu
etifeddiaeth yn anelu at roi sylw i'r mater pwysig iawn yma,"
dywedodd Mike.
Er bod yr ymgyrchoedd cyntaf i recriwtio merched yn siomedig o
ran y niferoedd a oedd yn dod i chwarae, dal ati wnaeth Mike a'r
tîm. Roedden nhw'n angerddol dros gael mwy o enethod i gymryd rhan
ac yn fuan iawn fe welodd y clwb mai siarad gyda'r gynulleidfa
darged, a meithrin eu hymddirieaeth a'u cefnogaeth nhw, fyddai'n
arwain at nifer cynyddol o aelodau newydd wrth i'r gair fynd ar
led.
Dywedodd Mike:
"Un peth wnaethon ni sylweddoli'n fuan iawn oedd os oedden ni'n
cael pethau'n iawn, doedden ni ddim yn colli'r genethod ar ôl y
sesiynau cyntaf. Roedden nhw'n aros ac yn awyddus ac yn frwd i ddod
yn chwaraewyr criced. Wedyn roedden nhw'n dweud wrth eu ffrindiau
ac roedd rhieni'n dweud wrth rieni eraill a dydyn ni ddim wedi
stopio tyfu ers hynny."
Un athroniaeth allweddol yn y clwb yw trin y chwaraewyr
benywaidd newydd yn gyfartal â'r bechgyn. Mae sesiynau hyfforddi
penodol i enethod yn cael eu cynnal ond, yn aml iawn, gofynnir
iddynt ddangos y sgiliau a'r technegau maent yn eu meistroli'n dda
i'w cyfoedion gwrywaidd, ac i'r gwrthwyneb, gan feithrin parch at y
naill a'r llall yn y clwb.
Hefyd, mae perffeithio'r cyflwyno yn y sesiynau hyfforddi wedi
helpu Clwb Criced Casnewydd i weithio'n llwyddiannus gyda merched a
genethod. Yn hytrach na chystadlu yn erbyn ymrwymiadau eraill y
genethod ar gyda'r nosau a phenwythnosau, trefnir y sesiynau
hyfforddi drwy sicrhau consensws y grŵp (gan gynnwys rhieni'r timau
iau). Hefyd, mae'r hyfforddiant yn parhau dros fisoedd y gaeaf er
mwyn cynnal diddordeb a chymhelliant.
Gyda mwy na 70 o chwaraewyr benywaidd yn dod i'r clwb yn
rheolaidd yn awr, a sgwadiau llawn rhwng yr ystodau oedran D11 i
D15, tîm merched hŷn llawn, tlysau niferus ar lefel genedlaethol a
chynghrair (gan gynnwys 2 dîm wedi'u coroni'n bencampwyr y DU yn
2013), 19 o ferched yn ennill capiau'n chwarae dros Gymru a chryn
dipyn o deitlau mewn cynghreiriau i ddynion yn bennaf, mae gan Glwb
Criced Casnewydd ddyfodol disglair o'i flaen ym myd criced merched.
Mae'r clwb wedi gweddnewid criced yn yr ardal, gan gynnig cyfleoedd
cymunedol ac opsiynau cynnydd rhagorol.
Sut aethant ati i gyflawni hyn ...
Blaenoriaethu
Rhoddwyd blaenoriaeth i sefydlu adran i ferched a genethod yn y
clwb o dan arweiniad prif hyfforddwr y clwb, gyda'r aelodau i gyd
yn gefnogol. Pan nad oedd yr ymgyrch recriwtio'n llwyddiant ar y
dechrau, sicrhaodd y clwb ei fod yn parhau â'i ffocws ar ei
uchelgais, gan edrych ar ddulliau eraill o recriwtio.
Hefyd rhoddwyd pwyslais mawr ar sicrhau'r chwaraewyr benywaidd
newydd bod y clwb wedi ymrwymo i'w cyfleoedd yn y dyfodol. Roeddent
yr un mor bwysig ag unrhyw rai o'r chwaraewyr gwrywaidd ac fe wnaed
yn siŵr eu bod yn ymwybodol o hyn o'r dechrau un.
Ymddiriedaeth a Pharch
Roedd yr athroniaeth ledled y clwb o drin y chwaraewyr benywaidd
yn gyfartal ar bob lefel yn golygu bod yr aelodau newydd yn edrych
ar Glwb Criced Casnewydd fel eu clwb hwy. Roedd rhannu sgiliau a
thechnegau gyda chyfoedion gwrywaidd yn hwyluso parch rhwng y
chwaraewyr i gyd.
O ran yr aelodau iau, gwnaed ymdrech i feithrin perthnasoedd a
chreu ymddiriedaeth gyda'r rheini. Fel menter newydd, roedd y clwb
yn cynnal cyfarfodydd gyda'r grŵp hwn yn aml, gan sicrhau adborth a
chonsensws, a arweiniodd hefyd at wirfoddolwyr newydd a mwy o
aelodau wrth i dadau a brodyr ddechrau cymryd rhan hefyd.
Gweithgareddau Recriwtio
Cynhaliodd Clwb Criced Casnewydd nifer o fentrau i helpu i
recriwtio aelodau benywaidd newydd i ddechrau. Roedd y rhain yn
cynnwys; gwyliau criced iau blynyddol i ysgolion, dyddiau blasu i
enethod yn unig a sesiynau hyfforddi wythnosol i enethod yn
unig.
Cyfleoedd Cynaliadwy
Roedd gan y clwb gynllun datblygu 5 mlynedd clir, yn amlinellu'r
cyfnodau twf wedi cyrraedd y cerrig milltir allweddol. Datblygwyd
timau ieuenctid i ddechrau, i sicrhau cynnydd drwy'r cynghreiriau
ym mhob grŵp oedran, gan fwydo chwaraewyr i dîm merched hŷn sy'n
llwyddiannus iawn yn awr.
Ategwyd yr ymarferion gan ddarpariaeth hyfforddi hefyd, oherwydd
wrth i'r genethod fynd yn hŷn roeddent yn cael opsiwn i hyfforddi
fel hyfforddwyr a chefnogi timau
iau.