Chwilio am gyfle fel Gwirfoddolwr Rhyngwladol?

Mae Vi-Ability, mewn partneriaeth â Silo India, yn cynnig
lleoliadau gwirfoddol gyda chefnogaeth yn Ne India wledig am gyn
lleied â £300 yr wythnos a hefyd cost taith awyren a fisa.
Byddwch yn byw ac yn gweithio mewn cartref lleol i fechgyn ac yn
cefnogi'r 77 o fechgyn yno gyda'u Saesneg, chwaraeon a datblygu eu
hyder, eu sgiliau arwain a'u
cymhelliant.
Yn ystod y dydd byddwch yn gweithio mewn ysgolion a cholegau
lleol yn rhoi gwersi Saesneg ac yn cyflwyno sesiynau hyfforddi
chwaraeon.
Gwyliwch ein fideo hyrwyddo i weld beth allech chi fod yn ei
wneud: https://vimeo.com/110469389
Byddwch yn cael y gefnogaeth ganlynol:
- Cefnogaeth lawn cyn gadael:
- Help gyda'ch cais am fisa
- Galwadau Skype a chyswllt rheolaidd gyda staff Vi-Ability i
ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau
- Asesiad sgiliau meddal i'ch paratoi chi ar gyfer ymgymryd â
chynllun datblygu personol llawn yn India
ac ar ôl dychwelyd i'r
DU
- Cefnogaeth a hyfforddiant cyn gadael, i'ch paratoi chi ar gyfer
cyflwyno
Cefnogaeth yn y wlad:
- Aelod o staff Vi-Ability wrth law 24/7 i'ch cefnogi chi, gyda
chynllunio, cyflwyno a chyngor ar deithio
- 3 chyfarfod un i un i gefnogi eich datblygiad personol yn y
tymor hir
- Cyfle i ennill cymhwyster
BTEC
- Cyfle i gael tystysgrif 50 awr Byd Eang Gwirfoddolwyr y
Mileniwm
Ar ôl y lleoliad:
- Cyfeirio at rwydwaith Vi-Ability a mynediad iddo i barhau i
gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli newydd yn eich cymuned
leol
- Cyfleoedd i ymwneud â gwaith Vi-Ability gyda chefnogaeth staff
Vi-Ability
- Mynediad at hyfforddiant a chyrsiau
pellach
Faint fydd y gost?
£1200 fydd ffi'r lleoliad, sy'n cynnwys y
canlynol:
- Cefnogaeth lawn y staff
- Codi yn y maes awyr a throsglwyddo yn India
- 3 phryd y dydd (a dŵr yfed diogel ar gael bob
amser)
- Llety; rhannu, gyda thoiled
gorllewinol
- Costau lleoliad fel adnoddau a chludiant
Pa gostau ychwanegol a
geir?
- Y siwrnai awyren
- Fisa - mae'n rhaid i chi wneud cais am fisa cyflogaeth
- Yswiriant teithio - cofiwch fod rhaid i hwn eich gwarchod chi
wrth i chi wirfoddoli
- Treuliau personol, gan gynnwys teithio ar y penwythnos
- Cludiant i'r maes awyr yn y DU ac adref oddi yno