Swyddi gwag
Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wella ein
gwasanaethau i'n cwsmeriaid, i'n hymgeiswyr ac i'n darpar weithwyr
ac, o gadw hynny mewn cof, rydyn ni wedi lansio system e-Recriwtio
newydd sbon yn ddiweddar.
Byddwch yn gallu ymgeisio am swyddi gwag ar-lein, cadw llygad ar
gynnydd eich ceisiadau, derbyn hysbysiadau drwy e-bost am swyddi
gwag Chwaraeon Cymru a bod yn rhan o'n cronfa dalent ar gyfer
cyfleoedd yn y dyfodol - profiad ymgeisio symlach yn gyffredinol i
ymgeiswyr.
Er ein bod yn mynd yn 'electronig', dydyn ni ddim eisiau colli'r
elfen bersonol yn ein gwasanaeth. Os byddwch yn cael anhawster gyda
mynd i mewn i'r system neu wrth weithio eich ffordd drwyddi, neu os
oes gennych unrhyw adborth am y broses ymgeisio newydd, mae croeso
i chi gysylltu a ni ar jobenquiries@sportwales.org.uk
.
Cliciwch yma i gael eich
ailgyfeirio i'n tudalennau e-recriwtio, a phob lwc!