YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Dafydd Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Yr Athro Leigh Robinson, Judi Rhys, Martin Veale, Rajma Begum, Philip Tilley, Nuria Zolle, Chris Jenkins, Rhian Gibson; Hannah Bruce
STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Emma Wilkins, Rachel Davies, Owen Hathway, Owen Lewis, James Owens, Jess Williams, Cath Shearer (eitem 5.3), Wendy Yardley (cofnodion)
Arsylwyr o Blith y Staff: Stephen DeAbreu
Allanol: (Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden AS), Eloise Stringemore (Step to Non-Exec), Bethan Davies (Athletwraig dros Gymru a Chydlynydd, Athletau Cymru), Neil Welch (Llywodraeth Cymru)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Dim ymddiheuriadau. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau newydd, sef Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Chris Jenkins, Rhian Gibson a Nuria Zolle, yn ffurfiol. Croesawodd hefyd y Dirprwy Weinidog (DW) i'r cyfarfod. Llongyfarchwyd Chris Jenkins ar ei benodiad diweddar yn Llywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad (CGF) ac i Wendy Yardley ar ei phenodiad fel Cynorthwy-ydd Gweithredol.
Gan fod amser yn brin i’r DW, newidiwyd trefn yr agenda (symudwyd eitem 5.3 i’w thrafod yn gyntaf). Eglurodd y DW ei bod yma i wrando ar y Bwrdd ac i ddweud diolch wrth bawb am yr holl waith oedd wedi cael ei wneud hyd yma. Fodd bynnag, mae’r sector cyfan bellach yn wynebu heriau sylweddol ac, oherwydd y darlun economaidd ynghyd â datganiad y Canghellor yn yr hydref, mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’w hamgylchiadau mwyaf heriol ers datganoli. Mae sgyrsiau anodd wedi’u cynnal gyda Chwaraeon Cymru ynghylch cyllidebau, a byddwn yn gweithio mor agos â phosibl i leihau’r effaith. Bydd dewisiadau anodd o'n blaen.
Diolchodd y Cadeirydd i'r DW a dywedodd ein bod ni i gyd yn awyddus i wneud yn siŵr bod pŵer chwaraeon yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf.
Chris Jenkins – Llywydd CGF (Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad)
Rhian Gibson – Cyfarwyddwr Clwb Rygbi Pontypridd
Ian Bancroft – Prif Swyddog Gweithredol CBS Wrecsam, mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ar Bartneriaethau Chwaraeon
Ers y cyfarfod diwethaf ar 22 Medi, cymeradwywyd a chyhoeddwyd y cofnodion wedi’u cywiro o 12 Mai 2023 ar-lein. Mae British Ju Jitsu wedi gweithredu ar y cyfle i gyflwyno tystiolaeth bellach mewn apêl. Felly, mae dadgydnabod / cydnabod yn yr arfaeth. Mae angen adolygu'r broses “Cydnabod” yn gyffredinol. Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod gwir a manwl gywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi. Pob cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol y canlynol at yr adroddiad:
Rhoddodd OH gyflwyniad i'r Bwrdd. Dechreuodd y gwaith a gomisiynwyd yn 2018 ac er i Covid darfu ar y gwaith, ailddechreuwyd yr ymchwil yn 2020. Mae canlyniadau’r arolwg cyflwr y genedl wedi’u cyhoeddi bellach ac maent yn dangos elw anhygoel o £4.44 am bob £1 o fuddsoddiad cyhoeddus mewn chwaraeon. Yn ogystal, mae manteision cydlyniant cymdeithasol chwaraeon yn amlwg hefyd ac mae effaith gwirfoddoli mewn chwaraeon yn werth tua £430m. Roedd rhai sylwadau gan y Bwrdd yn cynnwys y ffaith ei bod yn amlwg bod elw cymdeithasol yn bwysig, a bod angen i ni ei adlewyrchu rywsut mewn ffurf ar gyfrifyddu cymdeithasol gyda phartneriaid. Dywedodd y DW ei bod yn wybodaeth ddefnyddiol, ac y byddai'n bwydo'n ôl i adrannau eraill o fewn Llywodraeth Cymru. Mae cais am gyfarfod â gwahanol Weinidogion wedi cael ei anfon eisoes gan Chwaraeon Cymru.
Roedd Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ar ddydd Mawrth 28 Tachwedd a gofynnwyd i Chwaraeon Cymru gynhyrchu asesiadau risg effaith ar gyfer sawl senario o doriadau i’r gyllideb erbyn diwedd y diwrnod gwaith heddiw. Bydd yr effaith yn sylweddol, a bydd ystod o opsiynau’n cael eu cynhyrchu gan y Weithrediaeth i'r Bwrdd eu hystyried. Mae cyfathrebu cynnar gyda'r sector yn bwysig a byddai cyfarfodydd ar-lein a thrafodaethau Bwrdd ychwanegol yn cael eu trefnu.
Diolchodd Cath Shearer (CS) i'r Bwrdd am ganiatáu iddi hi a Bethan Davies (BD) ddod i'r cyfarfod i roi rhywfaint o gyd-destun a chefndir i’r prosiect panel athletwyr ynghyd â darparu profiad athletwr. Roedd y panel athletwyr wedi'i hen sefydlu bellach gyda chynrychiolaeth weddol dda. Mae'n darparu ar gyfer sgyrsiau agored a gonest ond maent yn ceisio gwella ei amrywiaeth ethnig gyda dulliau rhagweithiol o weithredu gydag athletwyr. Mae gan y Panel gysylltiad cryf â Thîm Cymru a chynigiodd RB gefnogaeth hefyd.
Gadawodd y Dirprwy Weinidog y cyfarfod am 1015.
Rhoddodd OL gyflwyniad ar y trydydd grŵp a'r grŵp olaf o Bartneriaid yr oedd angen pennu eu methodoleg buddsoddi. Mae nifer y partneriaid a fyddai'n gymwys i wneud cais yn fach, sef tri ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd pob un ohonynt yn chwarae rhan unigryw wrth ddarparu ar gyfer sicrhau bod chwaraeon yng Nghymru yn ffynnu. Cymeradwyodd y Bwrdd yr argymhelliad.
Manylion allweddol o'r cyflwyniad - lansio'r Hwb Adnoddau Amgylcheddol; Lansio Citbag; Gwybodaeth Partneriaid o'r dyfarniad costau byw.
Dim meysydd o bryder sylweddol wedi’u nodi na’u codi, fodd bynnag, bu rhywfaint o drafodaeth ar y gwelliannau sydd eu hangen i gynhyrchu incwm masnachol ar draws y sector. Croesawyd y ffocws parhaus ar addysg a chyfeiriwyd hefyd at y potensial i fowldio ein ffocws Amgylcheddol a chafodd gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ei grybwyll hefyd.
Mae'r Cyfrifon bellach wedi'u cymeradwyo yn dilyn cadarnhad gan Archwilio Cymru nad oedd unrhyw anghysondebau pensiwn. Llongyfarchodd MV (Cadeirydd ARAC) yr holl staff a oedd yn gysylltiedig â’r cyfrifon.
Cymeradwyodd y Bwrdd y Rhagolwg o danwariant a thrafodwyd y terfyn arian cario drosodd o 2% sy'n cyfateb i tua £650k. Mae Chwaraeon Cymru wedi’i wahardd rhag cadw cronfeydd wrth gefn, felly a ddylem ofyn am gynnydd cario drosodd.
Cam Gweithredu – EW i ofyn am eglurder ar derfyn cario arian drosodd LlC.
I bob pwrpas, cododd y toriad yn y gyllideb y risg honno i fod yn fater sy’n cael sylw. Dywedodd PT bod Parkwood Leisure (Plas Menai) wedi'i ddosbarthu fel isel ond y dylid parhau i adolygu hynny oherwydd y pwysau ariannol cyffredinol. Cais wedi'i wneud i'r Bwrdd - mae arnom ni angen Hyrwyddwr Iechyd a Diogelwch a Hyrwyddwr Diogelu.
Cam Gweithredu – Hyrwyddwr Iechyd a Diogelwch a Hyrwyddwr Diogelu
Byddai trafodaeth yn y cyfarfod nesaf o’r Bwrdd.
Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r materion allweddol a'r penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfodydd hyn ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd ym mis Medi. Nododd yr Aelodau yr adroddiad, ac ni chodwyd unrhyw faterion.
Ymchwilio i gynnal cyfarfod Bwrdd mewn lleoliad yng Ngorllewin Cymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
17 Mai, 12 Gorffennaf, 20 Medi, 22 Tachwedd 2024
Roedd y cofnodion wedi’u trefnu i gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf ar 16 Chwefror 2024.
Cymeradwywyd y cofnodion gan y Bwrdd ar 16 Chwefror 2024.