YN BRESENNOL: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft, Rajma Begum, Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys, Professor Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale
Staff: Brian Davies (PSG), Graham Williams, Emma Wilkins, Liam Hull, Jo Nicholas, Rachel Davies, Owen Hathway, James Owens, Amanda Thompson (cofnodion)
Allanol: Sian Dorwood a Janine Dube (Step To Non-Exec), Jac Chapman (Panel Ieuenctid), Neil Welch (Llywodraeth Cymru)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
Derbyniwyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir. Materion yn codi:
Edrychwch ar gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Amrywiaeth a Chynhwysiant a gynhaliwyd ar 10 Chwefror am ragor o fanylion.
Nododd yr Aelodau yr adroddiad ac ychwanegwyd y canlynol:
Cyfarfu’r Panel Ieuenctid ddiwethaf ar 25 Ionawr a thynnodd ei Gadeirydd sylw at y prif feysydd ffocws:
Diolchodd y Bwrdd a'r PSG i'r Panel am eu cyfraniad amhrisiadwy at y meysydd gwaith hyn.
Roedd rhai o Aelodau'r Panel yn gobeithio parhau am ail flwyddyn ac roeddent yn dadansoddi'r hyn yr oedd yr Aelodau eisiau ei gael o'r rôl yn y tymor hwy. Roedd Aelodau'r Bwrdd ar gael i weithredu fel mentoriaid neu i awgrymu eraill o fewn eu rhwydweithiau ar gyfer y rôl hon. Gofynnwyd i'r Aelodau Panel hynny a oedd eisiau mynd ar ôl hyn i roi eu bywgraffiadau a'u meysydd diddordeb a datblygiad gyrfa at ei gilydd i'w paru â mentoriaid a allai fod yn addas.
Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a chyflawniad 2021/22 yn erbyn y cynllun busnes ac yn amlinellu camau gweithredu yn y dyfodol a ddatblygwyd o’r gwaith hwnnw. Y ddau faes blaenoriaeth yn y cynllun busnes a amlygwyd oedd:
Trafodwyd gwydnwch y sector. Roedd data arolwg Com Res yn dangos bod anghydraddoldeb cynyddol yn ganlyniad mawr i'r pandemig. O ran sut roedd clybiau wedi goroesi’r storm, roedd rhai wedi gwneud yn well nag eraill. Roedd Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) wedi sefydlu fforwm i edrych ar wydnwch o fewn y sector. Byddai Chwaraeon Cymru yn canolbwyntio ar ymgyrch newid ymddygiad gan fod gan bartneriaid ddisgwyliadau afrealistig o hyd a gorddibyniaeth ar arian cyhoeddus. Byddai angen i’r sector cyfan feddwl yn wahanol yn y cyfnod ôl-bandemig.
Ar gyfer y Cynllun Busnes yn 2022/23 byddai’r dull hyblyg o weithredu’n parhau gyda chyfarfodydd Arweinyddiaeth misol yn adlewyrchu ar yr hyn oedd yn gweithio’n dda a’r hyn y dylid ei ddysgu. Byddai mwy o amser yn cael ei dreulio ar weithredu'r Cynllun Busnes ar draws y sefydliad, gan rymuso staff i weithio gyda'i gilydd i wneud y mwyaf o gyfraniadau unigol a chyfunol. Byddai hyn yn annog cydweithio ac atebolrwydd, yn grymuso arweinwyr strategol a staff eraill sy'n gweithio ar brosiectau allweddol ac yn galluogi cynllunio, dysgu a mireinio cynlluniau i ddigwydd mewn ffordd hyblyg ac ymatebol.
Derbyniwyd y llythyr Cylch Gwaith a'r gyllideb i gyd-fynd ym mis Rhagfyr ac roeddent yn cwmpasu cyfnod tair blynedd y Rhaglen Lywodraethu. Roedd hwn yn newid i’w groesawu, gan alluogi Chwaraeon Cymru i gynllunio ar sail tymor hwy. Roedd y tîm Arweinyddiaeth wedi nodi'r meysydd ffocws ar gyfer yr ail a'r drydedd flwyddyn a byddai'r eitemau hyn yn cael eu hadolygu'n barhaus. Y camau nesaf oedd cyflwyno’r Cynllun Busnes i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo, cyfathrebu’r cynllun i randdeiliaid allweddol, ymgysylltu â staff a mapio camau gweithredu, adolygu adnoddau’n barhaus i sicrhau bod y meysydd gwaith cywir yn cael eu blaenoriaethu, a rheoli unrhyw risgiau i gyflawni drwy'r broses rheoli risg bresennol. Byddai adroddiadau ansoddol a meintiol yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru a'r Bwrdd. Cymeradwyodd yr Aelodau y Cynllun Busnes.
Pwyntiau trafod:
Roedd y papur hwn yn amlinellu cyllideb refeniw arfaethedig Chwaraeon Cymru ar gyfer 2022/23 yn seiliedig ar setliad drafft Llywodraeth Cymru. Roedd y papur yn cyfeirio at y broses o bennu’r gyllideb, y rhagdybiaethau allweddol, a'r dewisiadau a ystyriwyd gan y tîm Gweithredol wrth ddatblygu'r gyllideb.
Byddai pwysau gwirioneddol ar Chwaraeon Cymru i gyflawni’r llythyr Cylch Gwaith o fewn y lefel hon o adnoddau. Roedd gobeithio wedi bod am ddyfarniad uwch a fyddai wedi rhoi cyfle i gyflwyno mwy drwy'r Partneriaethau Chwaraeon newydd. Awgrymwyd safiad cryfach, cadarnach oherwydd bod partneriaethau o'r fath yn mynd i fod yn allweddol i gyflawni'r cylch gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Cymeradwyodd yr Aelodau y gyllideb.
Yn dilyn arolygon staff ac adolygiad o arferion yn ystod cyfnod y pandemig, roedd y Weithrediaeth yn argymell y byddai cynnal egwyddorion eang yn hytrach na mabwysiadu strwythur rhagnodol ar gyfer yr amgylchedd gwaith yn caniatáu i'r sefydliad ymateb i adborth a datblygu ei ddull gweithredu yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn a’r sefydliad. Argymhellwyd parhad y mesurau peilot ar gyfer misoedd Ebrill i Hydref, gan roi'r cyfrifoldeb i'r tîm Arweinyddiaeth am drefnu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gartref yn rheolaidd, a oedd yn briodol i bob tîm. Byddai archebu gofod swyddfa yn parhau gan ddefnyddio'r calendr desg boeth a byddai gweithgor yn edrych ar ad-drefnu gofod. Byddai calendr o ddigwyddiadau strategol a chymdeithasol yn cael ei lunio.
Er bod bwriad i’r egwyddorion a amlinellwyd yn y papur fod yn rhai hirdymor ac yn sail i ddull gweithredu mwy strategol, roedd amgylchedd swyddfa’r dyfodol wedi’i gysylltu’n anorfod â phenderfyniad ynghylch dyfodol Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, yr oedd y Grŵp Adolygu Cyfleusterau yn ei bennu. Cymeradwyodd yr aelodau yr egwyddorion a'r trefniadau a argymhellwyd ar gyfer y dull peilot o weithredu.
Pwyntiau trafod:
Rhoddwyd diweddariad ar y gwaith i gefnogi lefelau uwch o weithgarwch corfforol i bob disgybl yn ystod y diwrnod ysgol. Roedd y papur yn ymdrin â dwy agwedd:
Roedd cydnabyddiaeth, oherwydd nifer y mentrau sy'n cael eu datblygu, bod potensial am ddryswch a risg nad oedd y ffrydiau gwaith amrywiol yn gydlynol. Gofynnwyd i Chwaraeon Cymru gadeirio Grŵp Llywio Actif yn Ddyddiol sy’n gyfrifol am wneud argymhellion i’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Lles y Meddwl ar fframwaith i gefnogi lefelau uwch o weithgarwch corfforol ar draws y diwrnod ysgol cyfan - cyrraedd yr ysgol, yn ystod gwersi, yn ystod amser chwarae, ac ar ôl ysgol.
Yn ddiweddar, cytunodd y grŵp llywio ar Ddogfen Sefydlu Prosiect Actif yn Ddyddiol a byddai ffocws ar unwaith ar y ddau gam cyntaf:
Cynlluniau Braenaru: Roedd Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi £235k mewn 12 cynllun braenaru ledled Cymru, a gynhaliwyd yn ystod tymhorau'r gwanwyn a'r haf. Roedd gwerthusiad allanol o'r peilot hwn allan i dendr ar hyn o bryd. Byddai gwerthusiad yn helpu i nodi sut bu i’r peilot helpu i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol y pandemig, a gobeithio eu gwyrdroi. Lansiwyd y Cynlluniau Braenaru cyn i’r Bartneriaeth Chwaraeon gyntaf, Chwaraeon Gogledd Cymru, fod mewn sefyllfa i gymryd rhan, ond roedd yn cyd-fynd â hwy bellach.
Yn ystod y misoedd nesaf byddai staff yn edrych eto ar y gwaith a wnaed gyda’r sector Addysg i ddeall ymhellach yr effaith y gallai Chwaraeon Cymru ei chael a’r rôl unigryw y gallai ei chwarae. Byddai diweddariad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd eto ym mis Gorffennaf.
Yn dilyn proses ymgynghori helaeth, byddai’r arolwg yn fyrrach, yn symlach ac yn haws ei lenwi a byddai’n canolbwyntio ar gwestiynau a oedd fwyaf defnyddiol a pherthnasol i Chwaraeon Cymru a’i bartneriaid. Roedd yn rhaid i fethodoleg yr arolwg a'i ganlyniadau fod yn ddibynadwy a chael eu defnyddio i ysgogi newid ystyrlon. Roedd y rhestr o newidiadau a ystyriwyd drwy’r peilot yn cynnwys dylunio fformat Hawdd ei Ddeall ar gyfer yr arolwg, adolygiadau i’r cwestiynau sy’n canolbwyntio ar ethnigrwydd ac anabledd, rhestr wedi’i diweddaru o chwaraeon i adlewyrchu dealltwriaeth plant, ailgyflwyno cwestiwn am amledd chwaraeon a blaenoriaeth ar gyfer hynny a chwestiynau eraill yn cyd-fynd â buddsoddiad o fewn strwythur yr arolwg. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r cwestiynau yn ymwneud â hyder, cymhelliant a rhwystrau i chwaraeon a fydd yn helpu ysgolion a phartneriaid i dargedu eu darpariaeth.
Byddai’r tîm Dirnadaeth yn cynnal gweminar cyn bo hir i esbonio'r newidiadau a bydd yr arolwg yn mynd yn fyw o fis Ebrill i fis Gorffennaf. Byddai'r canfyddiadau'n cael eu dadansoddi yn ystod mis Awst a mis Medi, gyda'r canlyniadau'n cael eu rhagweld ddiwedd mis Medi ar lefel genedlaethol. Roedd cyfres o gamau cyfathrebu a materion cyhoeddus wedi’u cynllunio yn ystod y misoedd dilynol cyn i werthusiad ôl-arolwg ac ymgynghoriad gael eu rhoi ar waith yn gynnar yn 2023. Rhannwyd y ffordd yr oedd y cwestiwn ethnigrwydd yn mynd i gael ei ofyn gyda'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn.
Cynhaliwyd yr adolygiad effeithiolrwydd blaenorol ym mis Tachwedd 2020 a chytunwyd ar gynllun gweithredu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror 2021. Yn dilyn yr adolygiad diweddar hwn byddai’r matrics sgiliau’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol. Dyma adnodd defnyddiol i helpu Chwaraeon Cymru i wneud y defnydd gorau o sgiliau Aelodau ac ymgysylltu’n ehangach y tu hwnt i'r Cadeirydd a'r Is Gadeirydd yn unig.
Roedd y penodiadau i'r Bwrdd yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd y matrics sgiliau ganddynt fel rhan o'u proses recriwtio ac yn fwyaf diweddar roedd y staff wedi cymryd rhan yn y broses gyfweld. Gofynnodd yr Aelodau am fwy o drafodaethau anffurfiol rhwng cyfarfodydd, awgrym i'w gyflwyno i'r Cadeirydd newydd ar ôl ei benodi, yn ogystal â chadarnhau cynlluniau ar gyfer diwrnod cwrdd i ffwrdd i'r Bwrdd.
Cyfanswm y gwariant refeniw am y cyfnod oedd £21.57m yn erbyn proffil cyllideb o £21.95m. Dyrannodd Llywodraeth Cymru £2m pellach i'r gronfa Gyfalaf sydd bellach yn gyfanswm o £7m.
Lansiwyd cynllun Cyllido Torfol Chwaraeon Cymru ym mis Medi a hyd yma, roedd 12 addewid wedi’u derbyn a £43k wedi’i dalu. Roedd elfen Cynnydd Cronfa Cymru Actif wedi talu £1.5m hyd yma. Roedd elfen Diogelu Cronfa Cymru Actif yn parhau ar agor, ond roedd y galw wedi lleihau'n sylweddol o gymharu â cheisiadau'r flwyddyn flaenorol. Hyd yn hyn, roedd £241k wedi'i ddyfarnu.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y Cynllun Gaeaf Llawn Lles, cafwyd atodiad ym mis Tachwedd o £1m i roi grantiau i bartneriaid. Derbyniwyd atodiad pellach o £300k ym mis Tachwedd ar gyfer Llwybr Addysg Actif / Ysgolion Bro.
Roedd addasiadau i'r broses a'r symiau a dderbyniwyd ar gyfer cynlluniau cysylltiedig ag iechyd a oruchwyliwyd gan yr Is-adran Iechyd y Cyhoedd, fel y manylir yn yr adroddiad.
Cyfanswm gwariant y Loteri oedd £12.95m yn erbyn cyllideb o £13.62m. Roedd arian y Loteri ar sail dreigl heb unrhyw gyfyngiad ar ddiwedd y flwyddyn ar y swm sy’n cael ei ddal gyda DCMS nac o fewn cyfrif banc y Loteri (o fewn lefel resymol). Roedd gwerthiant tocynnau’r Loteri Genedlaethol wedi parhau i fod yn gryf, ac yn uwch na’r disgwyl a gyllidebwyd gan DCMS ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Derbyniodd Chwaraeon Cymru 0.9% o’r gronfa Achosion Da, oedd yn cyfateb i tua £1.35m o incwm y mis.
Roedd cyfarfodydd wedi'u cynnal gydag uwch staff i nodi unrhyw danwariant neu bwysau cost. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y byddai'r arian yn cael ei wario erbyn diwedd y flwyddyn.
Ym mis Tachwedd 2020 cydnabu’r Bwrdd bod Covid19 wedi rhoi pwysau sylweddol ar y sector chwaraeon a chytunwyd y byddai cyllid partneriaid yn cael ei ddiogelu cymaint â phosibl am ddwy flynedd. 2022/23 fyddai blwyddyn olaf y warchodaeth ac yn 2023/24 byddai agwedd olaf y model buddsoddi yn cael ei gweithredu. Byddai Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i drosglwyddo i’r lefelau buddsoddi newydd i’w gweithredu’n llawn yn 2025/26 fel y cytunwyd yn flaenorol.
Roedd gwaith wedi dechrau ar ddatblygu meini prawf priodol ar gyfer partneriaid lle nad oedd data ar gael yn hwylus, a disgwylid y byddai'n barod i ddod i'r Bwrdd yn y cyfarfod nesaf ym mis Mai.
Roedd yn ofynnol i bob partner a oedd yn gofyn am gyllid fodloni'r meini prawf hanfodol yn y Fframwaith Gallu. Gyda chyflwyniad polisi Gwrth Gyffuriau newydd y DU (UKAD), roedd Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio gydag UKAD a’r holl Gyrff Rheoli Cenedlaethol i sicrhau bod yr elfen hon o’r fframwaith yn ei lle cyn i gyllid gael ei ryddhau i bartneriaid.
Roedd cais wedi'i wneud i Lywodraeth Cymru am hyblygrwydd cario drosodd a byddai mwy o fanylion yn dilyn ynghylch sut byddai cyllid yn cael ei ddyrannu mewn ymateb i'r penderfyniad hwnnw.
Cymeradwyodd yr Aelodau y buddsoddiadau partner a argymhellwyd ar gyfer 2022/23.
Crynhoi trafodaethau a phenderfyniadau cyfarfodydd is-grwpiau’r Bwrdd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd. Roedd y diweddariadau a roddwyd yn adlewyrchu’r cyfarfodydd canlynol:
Cytunodd yr Aelodau ar y newidiadau i'r cylch gorchwyl ar gyfer y ddau Bwyllgor.
Ni chodwyd unrhyw faterion.
13 Mai*, 15 Gorffennaf*, 16 Medi a 25 Tachwedd 2022. *Aildrefnwyd ar ôl hynny ar gyfer 6 Mai a 29 Gorffennaf
Cymeradwywyd y cofnodion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 6 Mai 2022.